Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun ymwybyddiaeth o asthma

25 Ionawr 2017

Medical Students with Children from school

Mae myfyrwyr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn addysgu plant yng Nghaerdydd am sut i adnabod arwyddion a symptomau pyliau o asthma a sut i ymateb iddynt yn effeithiol.

Meddai Caitlin Peers sy'n arwain y cynllun ar gyfer Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae asthma yn ystod plentyndod yn effeithio ar dri o blant ym mhob ystafell ddosbarth ac mae'n arwain at lawer iawn o absenoldeb o'r ysgol, gorfod mynd i'r ysbyty a hyd yn oed marwolaeth, er bod triniaethau ar gael yn eang...”

“Drwy ein cynllun newydd, rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn addysgu plant am y cyflwr yn y gobaith o atal pyliau angheuol o asthma."

Caitlin Peers Ysgol Meddygaeth

Mae wedi'i fodelu ar gynllun gan Goleg Prifysgol Llundain a ddangosodd gynnydd o 46% yn nifer y plant oedd yn deall beth yw asthma a beth i'w wneud pan mae rhywun yn cael pwl o'r cyflwr. Mae'r ymgyrch gychwynnol i gynyddu ymwybyddiaeth wedi addysgu dros 220 o blant rhwng pedair a naw oed mewn saith ysgol ledled Caerdydd. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys sesiwn hanner awr o hyd gan gynnwys gwers anatomeg syml am yr ysgyfaint, cyflwyniad a gweithgareddau rhyngweithiol i amlygu'r hyn sy'n achosi asthma a sut i reoli pyliau o asthma.

Medicine students raising asthma awareness in school

Cyn y cyflwyniad, trin a rheoli asthma oedd y maes lle'r oedd y diffyg gwybodaeth mwyaf. Roedd data o gwis y cynllun yn dangos mai yn y maes hwn y gwelwyd y gwelliant mwyaf hefyd ar ôl y sesiynau. 42% oedd sgôr y plant ar gyfartaledd cyn y cyflwyniad, a 92% oedd eu sgôr ar ôl y cyflwyniad. Daeth i'r amlwg hefyd bod y plant yn gallu dal gafael ar wybodaeth gan eu bod yn cofio'r pum prif bwynt bum mis yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Peers: "Mae addysg am asthma ac ymwybyddiaeth ohono o oed cynnar yn hollbwysig er mwyn creu cenhedlaeth sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain. Gyda lwc, bydd hyn yn lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag asthma sy'n digwydd cyn cyrraedd yr ysbyty."

Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu'r cynllun ar gyfer ysgolion ledled de Cymru yn ogystal â chydweithio â'r Gymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn addysgu plant mewn ysgolion Cymraeg. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn creu pecyn i athrawon er mwyn eu haddysgu nhw am y cyflwr a sut i'w reoli o fewn yr ystafell ddosbarth.

Rhannu’r stori hon

Yn chwarae rhan allweddol er mwyn gwella gweithgareddau craidd ymchwil, addysg a hyfforddiant yr Ysgol Meddygaeth.