Ewch i’r prif gynnwys

Troi clust i glywed

21 Rhagfyr 2016

Binaural audio device

Mae o fudd i wrandawyr mewn sefyllfa swnllyd wynebu ychydig i ffwrdd o'r person maen nhw'n gwrando arno, gan droi un glust at y llais, yn ôl casgliad astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, a gyllidwyd gan elusen y DU Action on Hearing Loss (RNID).

Canfuwyd fod y dacteg hon yn arbennig o fuddiol i bobl oedd â mewnblaniad yn y cochlea, sy'n tueddu i brofi anawsterau mewn llefydd swnllyd fel tai bwyta.

Roedd hefyd yn gydnaws â darllen gwefusau, gan nad oedd troi'r pen 30 gradd yn effeithio ar hynny, gan ddangos felly bod modd cyfuno buddiannau darllen gwefusau a throi clust at y siaradwr.

Dywedodd Dr Jacques Grange o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: "Gall sŵn fod yn broblem fawr i unrhyw wrandäwr, ac yn enwedig rhywun sydd â mewnblaniad y cochlea..."

"Mae ein hastudiaeth ni'n dangos bod troi un glust at y person maen nhw'n gwrando arno yn golygu ei bod yn haws i bobl â mewnblaniad y cochlea glywed uwchlaw'r sŵn cefndir, gan eu galluogi i sgwrsio mewn amgylcheddau swnllyd, heb gael eu hynysu."

Dr Jacques Grange Ysgol Seicoleg

“Mae'n well cael signal clir mewn un glust na signal tila yn y ddwy glust."

Pan gafodd ei phrofi yn y labordy, gyda'r siaradwr o flaen y gwrandäwr a sŵn yn amharu o’r tu ôl, arweiniodd y dechneg hon at welliant o 4 desibel o ran eglurder lleferydd mewn amgylchedd swnllyd i wrandawyr oedd â chlyw normal a defnyddwyr mewnblaniad y cochlea. Gall gwelliant o 4 desibel olygu'r gwahaniaeth rhwng deall dim byd a deall yn berffaith.

"Mae Action on Hearing Loss wrth ein bodd i fod wedi cyllido'r astudiaeth bwysig hon sydd wedi amlygu tacteg syml ond effeithiol y gall pawb ei defnyddio i glywed ffrindiau a theulu mewn mannau swnllyd fel tai bwyta a gobeithio y bydd modd cyfleu'r cyngor hwn i ddefnyddwyr mewnblaniad y cochlea a fyddai'n elwa'n wirioneddol arni."

Dr Ralph Holme Pennaeth Ymchwil Biofeddygol Action on Hearing Loss

Dywedodd Dr Ralph Holme, Pennaeth Ymchwil Biofeddygol Action on Hearing Loss: “Rydym ni hefyd yn ymgyrchu ar i fariau, tai bwyta a chaffis wneud mwy i wella eu hacwsteg i'w gwneud yn haws i bobl sydd wedi colli eu clyw gynnal sgwrs."

Er mwyn efelychu sefyllfa wrando realistig mewn tŷ bwyta, gwnaed mesuriadau acwstig hefyd yn nhŷ bwyta Mezza Luna yng Nghaerdydd a'u defnyddio i greu efelychiad acwstig rithwir. Yn yr efelychiad profwyd gwrandawyr oedd â chlyw normal ar bob bwrdd gyda thri gogwydd pen gwahanol: yn wynebu'r siaradwr targed, troi'r pen 30 gradd i'r chwith a throi'r pen 30 gradd i'r dde.

Dangosodd y data fod budd sylweddol yn deillio o droi pen o hyd gyda'r lefel uchel hon o realaeth.

Mae'r ddau arbrawf yn caniatáu i gasgliadau gael eu gwneud am effaith achosol troi pen ar ddealltwriaeth o sgwrsio yn y labordy ac yn y byd real.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.