Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliad Proffesiynol i fyfyriwr

20 Rhagfyr 2016

Financial analytics software

Mae cwmni Lexington Corporate Advisors wedi partneru gydag Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd i gynnig interniaethau i fyfyrwyr sy'n ymdrechu i greu effaith yn y byd cyllid corfforaethol.

Fel rhan o'r fenter, mae Alexandra Ross wedi ymuno â'r cwmni fel Dadansoddwr Ymchwil Cyllid Corfforaethol.

Mae Alexandra yn ei hail flwyddyn yn astudio gradd Rheolaeth Busnes (BSc). Mae hi eisoes wedi cymhwyso'n rhannol fel Technegydd Cyfrifyddu ar ôl sefyll arholiadau ATT cyn astudio am ei gradd ac mae'n gobeithio mynd i'r proffesiwn cyllid corfforaethol ar ôl graddio.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd Mr Gary Partridge: "Rydym ni'n falch iawn y bydd Alexandra yn rhan o'r cwmni dros y misoedd nesaf.

"Mae hwn yn gyfle rhagorol iddi hi sicrhau profiad ymarferol o ymchwilio i brynwyr ar gyfer trafodion gwerthu a gwaredu mewn cwmni prysur a llwyddiannus.

"Mae Alexandra yn dangos addewid gwirioneddol. Mae ganddi eisoes ddealltwriaeth o fyd busnes ac rydym ni'n gobeithio ei helpu i ddatblygu ei sgiliau cyllid corfforaethol a'i gwybodaeth yn ystod cyfnod ei hinterniaeth gyda ni..."

"Mae'r cydweithio hwn hefyd wedi cryfhau ein cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd, ac rydym ni'n teimlo y bydd yn helpu i fuddsoddi yn nyfodol Lexington a dyfodol graddedigion sy'n gobeithio mynd i'r proffesiwn cyllid corfforaethol."

Gary Partridge Cyd-sylfaenydd, Lexington Corporate Advisors

Alexandra yw'r ddiweddaraf i ymuno â Lexington Corporate Advisors ers i'r cwmni ddechrau ymwneud â rhaglen Interniaeth BBaCh Prifysgolion Santander, sy'n ceisio gwella cyflogadwyedd graddedigion drwy greu partneriaethau gyda phrifysgolion a busnesau lleol drwy'r DU gyfan i gynnig interniaethau o ansawdd uchel ar draws amrywiaeth o sectorau.

Wrth sôn am ei hinterniaeth, dywedodd Alexandra: "Rwyf i'n teimlo'n gyffrous iawn i fod yn dechrau fy lleoliad yn y flwyddyn newydd. Bydd yn gyfle i fi gymhwyso'r damcaniaethau rwyf i wedi'u dysgu o fy nghymhwyster AAT Lefel 3 ac Ysgol Busnes Caerdydd mewn amgylchedd proffesiynol. Yn ogystal, rwyf i'n credu y bydd fy nghydweithwyr yn Lexington yn cynnig pob cymorth sydd ei angen arnaf i ragori yn fy swydd..."

"O'r profiad hwn rwyf i'n siŵr y bydd yn fy rhoi mewn sefyllfa dda wrth ddechrau ar fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol."

Alexandra Ross Myfyriwr Rheoli Busnes ail flwyddyn

Ychwanegodd Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Ysgol Busnes Caerdydd: "Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Lexington dros y 12 mis diwethaf ac mae'n wych gweld y cwmni'n tyfu ac yn datblygu, ac i'n myfyrwyr ni fod yn rhan o'r stori honno..."

"Mae cyflogadwyedd yn ffocws pwysig i ni ac rydym ni'n ymrwymo i ddarparu lleoliadau proffesiynol o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Mae ein perthynas gyda Lexington yn enghraifft ragorol o'r ffordd rydym ni'n gweithio gyda BBaChau Cymru i hwyluso hynny a sicrhau budd i bawb."

Alex Hicks Rheolwr Lleoliadau Ysgol Busnes Caerdydd

"Mae'n golygu bod busnes yn cael manteisio ar fyfyrwyr creadigol, gwybodus ac uchelgeisiol tra bo'r myfyrwyr yn cael cyfle i sicrhau profiad ymarferol ac adeiladu eu rhwydwaith broffesiynol cyn graddio."

Sefydlwyd Lexington Corporate Advisors ym mis Ionawr 2016 gan Gary Partridge a Nigel Greenaway. Mae'r cwmni cynghori entrepreneuraidd bychan yn arbenigo mewn darparu cyngor strategol wedi'i dargedu at dyfu busnes, caffaeliadau, gwarediadau a chodi arian.

Gan dynnu ar rwydwaith gyfunol Gary a Nigel, a thros 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyllid corfforaethol, mae Lexington yn gweithio ar draws y DU fel Prif Gynghorydd yn darparu cyngor ymarferol, y gellir ymddiried ynddo, i gwmnïau a'u perchnogion sy'n ceisio hwyluso twf a chrisialu gwerth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.