Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant i Gwmni Biodechnoleg

20 Rhagfyr 2016

INDOOR Biotechnologies

Mae cwmni biodechnoleg a gafodd ei feithrin yng nghanolfan Medicentre Caerdydd, ar fin graddio.

Mae Indoor Biotechnologies yn arbenigo mewn cynnyrch a gwasanaethau arloesol ar gyfer ansawdd aer o dan do, gwasanaethau amgylcheddol, alergedd ac asthma.

Mae cynnyrch y cwmni yn helpu i ganfod achosion o alergeddau, gan gynnwys y rhai sy’n dod o baill, bwyd, anifeiliaid a gwiddon.

Cafodd Indoor ei lansio bedair blynedd yn ôl ac mae bellach yn dîm o saith gwyddonydd imiwnoleg sy'n ymchwilio ac yn datblygu cynnyrch newydd.

Bydd y cwmni yn symud i labordy a swyddfa newydd yn nwyrain Caerdydd. Graddio yw'r enw ar y broses hon.

Dywedodd Dr James Hindley, Cyfarwyddwr Gweithredol Indoor, "Mae'r cyfnod yr ydym wedi'i dreulio yn Medicentre Caerdydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa orau bosibl i ddechrau'r ail gam yn natblygiad Indoor.

"Mae'r gefnogaeth yr ydym wedi ei chael gan dîm Medicentre a'u cysylltiadau wedi ein galluogi i ennill ein plwyf yn Ewrop a thu hwnt. Rydym wedi creu cysylltiadau hynod werthfawr gydag ymchwilwyr lleol, cynrychiolwyr o'r llywodraeth a darparwyr gwasanaethau proffesiynol. Rydym hefyd wedi gallu recriwtio talent eithriadol yn ne Cymru."

Dr James Hindley Cyfarwyddwr Gweithredol, Indoor Biotechnologies

Mae Indoor Biotechnologies yn masnachu mewn dros 50 o wledydd ac £1.4m yw ei drosiant disgwyliedig ar gyfer 2016, ac allforion sydd i'w cyfrif am 90% ohono. Mae'n cael ei ystyried yn un o ddarparwyr cynnyrch a gwasanaethau mwyaf blaenllaw'r byd ym maes alergedd, ac fe agoron nhw gyfleuster newydd yn India yn gynharach eleni.

Mae'r cwmni yn graddio ar adeg arwyddocaol i Medicentre Caerdydd. Medicentre oedd y ganolfan meithrin busnes gyntaf o'i math yn y DU ac mae'n edrych ymlaen at ei phen-blwyddyn yn 25 oed.

Meddai Robyn Davies, Rheolwr Medicentre Caerdydd: "Rydym wedi cael sawl llwyddiant yn Medicentre, ac rydym yn hynod falch o'r datblygiad diweddaraf hwn. Mae bob amser yn werth chweil gweld ein tenantiaid yn graddio o'r ganolfan, a dymunwn bob llwyddiant i James a'i dîm yn y dyfodol. "

Mae Medicentre Caerdydd erbyn hyn yn berchen i Brifysgol Caerdydd, y prif gyfranddaliwr, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Rhannu’r stori hon

Dewch i gwrdd â'r arloeswyr sy'n defnyddio ymchwil arloesol i greu manteision ar gyfer yr economi, cymdeithas a'r amgylchedd.