Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn arwain prosiect cyngor gwyddonol newydd yn yr UE

13 Rhagfyr 2016

European Flags

Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynrychioli'r DU mewn prosiect blaenllaw newydd a sefydlwyd i gynnig cyngor gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth lunio polisïau yn yr UE.

Bydd consortiwm newydd o bum academi Ewropeaidd, a lansiwyd heddiw mewn seremoni ym Mrwsel, yn cynnig cyngor gwyddonol cymwys ac amserol a adolygwyd gan gymheiriaid i gefnogi gwaith y Comisiwn Ewropeaidd.

Teitl y prosiect yw 'Science Advice for Policy by European Academies' (SAPEA), ac mae wedi'i ariannu drwy Raglen Horizon 2020 yr UE, sy'n rhoi €6 miliwn dros bedair blynedd.

Prifysgol Caerdydd fydd yn gwneud cyfraniad un o'r pum academi allweddol, Academia Europaea. Canolfan Wybodaeth y Brifysgol, a lansiwyd yn ddiweddar, yw cysylltiad swyddogol ac uniongyrchol y DU â gweithgareddau'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n ymwneud â chyngor gwyddonol, a elwir hefyd y Mecanwaith Cyngor Gwyddonol (SAM).

Dywedodd yr Athro Ole Petersen FRS o Brifysgol Caerdydd, Cyfarwyddwr Canolfan Wybodaeth Caerdydd Academia Europaea, ac Is-Lywydd Academia Europaea:  "Mae hwn yn gyfle unigryw i Brifysgol Caerdydd gael rôl sylweddol o ran rhoi tystiolaeth wyddonol i'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhoi cyngor am bolisïau..."

"Beth bynnag fydd perthynas ffurfiol y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, bydd penderfyniadau a wneir gan y Comisiwn Ewropeaidd yn cael effaith ar y DU, ac, wrth gwrs, ar Gymru. Bydd rôl Prifysgol Caerdydd yn y Mecanwaith Cyngor Gwyddonol newydd yn Ewrop, drwy waith y Ganolfan Wybodaeth Caerdydd, yn hynod bwysig."

Yr Athro Ole Petersen Director of the Cardiff University - Academia Europaea Knowledge Hub

Mae'r rhwydweithiau o academïau Ewropeaidd sy'n cymryd rhan yn cynnwys Academia Europaea, ALLEA, EASAC, Euro-CASE, a FEAM, a fydd yn cyfuno eu strwythurau presennol i sicrhau mwy o gydweithio trawsddisgyblaethol ymhlith mwy na 100 o academïau eraill mewn mwy na 40 o wledydd yn Ewrop.

Ymunodd Llywyddion y pum academi Ewropeaidd â Chyfarwyddwr Cyffredinol Ymchwil ac Arloesedd y Comisiwn Ewropeaidd, Dr Robert-Jan Smits, mewn seremoni lansio ym Mrwsel ar 13 Rhagfyr 2016.

Nododd Cadeirydd SAPEA a Llywydd ALLEA, yr Athro Günter Stock ei fod yn gwerthfawrogi bod "y Comisiwn wedi sefydlu system gynhwysfawr ar gyfer rhoi cyngor gwyddonol annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn llunio polisïau yn yr UE. Mae'r pum sefydliad academïau Ewropeaidd yn edrych ymlaen at gydweithio'n adeiladol â Grŵp Lefel Uchel y Mecanwaith Cyngor Gwyddonol."

Rhannu’r stori hon

Cydweithiwch gyda ni drwy ein prosiectau ymchwil, gwasanaethau ymgynghori, trosglwyddo technoleg a mwy