Ewch i’r prif gynnwys

Boddhad ôl-raddedigion ar ei uchaf

5 Rhagfyr 2016

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd wedi sgorio 100% am foddhad cyffredinol yn Arolwg Profiad Uwchraddedigion a Addysgwyd (PTES) 2016.

Mae’r canlyniadau yn ymwneud a rhaglen MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yr Ysgol.

Mae'r Arolwg Profiad Uwchraddedigion a Addysgwyd yn arolwg ar-lein cenedlaethol sydd yn gwerthuso saith maes thematig: ansawdd yr addysgu a'r dysgu , ymgysylltu, asesu ac adborth, traethawd hir, trefniadaeth a rheolaeth, adnoddau dysgu, a datblygu sgiliau.

Eleni, gwelodd yr Ysgol gynnydd mewn chwe maes thematig ac fe dderbyniwyd y sgôr uchaf posib (100%) yn y meysydd canlynol: Traethawd Hir ac Asesu ac Adborth. Derbyniwyd sgôr o 95% ym maes Dysgu ac Addysgu (cynnydd o 20% ers y llynedd) a 98% ym maes Trefnu a Rheoli.

Wrth gymharu canlyniadau’r Ysgol gyda chanlyniadau gweddill y Brifysgol, mae ansawdd a chysondeb yr Ysgol i’w weld yn glir. Eleni, mae canlyniadau’r Ysgol ymhlith y gorau yn y Brifysgol gyfan.

Dywed Dr Siwan Rosser, Cyfarwyddwr y rhaglen MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd: “Dyma ganlyniadau gwych sydd yn tystio i arloesedd ac ansawdd ein rhaglen ôl-raddedig, ac i ragoriaeth ein hamgylchedd ymchwil a dysgu.

“Mae derbyn adborth gan fyfyrwyr yn bwysig dros ben o safbwynt cynnal ansawdd ein cyrsiau, a byddwn yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth a phrofiad addysgol ein myfyrwyr.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.