Ewch i’r prif gynnwys

Meeting of 'big data' alliance

5 Rhagfyr 2016

Binary code

Y Llywodraeth, busnes a'r byd academaidd yn dod ynghyd yng Nghaerdydd i lansio'r gynghrair ymchwil ryngwladol

Bydd arbenigwyr cyfrifiadureg o'r DU a'r Unol Daleithiau yn dod ynghyd yng Nghaerdydd heddiw ar gyfer cyfarfod cyntaf cynghrair ryngwladol newydd a sefydlwyd i fanteisio ar 'ddata mawr' mewn sefyllfaoedd ar lawr gwlad.

Bydd Sefydliad Troseddau a Diogelwch Prifysgol Caerdydd yn rhan bwysig o'r gynghrair a arweinir gan IBM. Mae prifysgolion blaenllaw eraill o'r DU ac UDA yn rhan ohoni hefyd yn ogystal â busnesau rhyngwladol mawr fel Grŵp Airbus a BAE Systems. Labordy Ymchwil Byddin (ARL) yr Unol Daleithiau a Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn y DU (Dstl) sydd wedi sefydlu'r gynghrair.

Cynghrair Technoleg Ryngwladol Dadansoddeg Dosbarthedig a Gwybodaeth Wyddonol (DAIS ITA) yw ei henw a'i nod yw cynnal ymchwil sylfaenol am sut y gall pobl a dyfeisiau cyfrifiadurol gydweithio mewn sefyllfaoedd sy'n newid yn gyflym, fel trychinebau, i wneud pobl yn fwy diogel.

Bydd DAIS ITA yn ceisio codi hyd at $80m (£63m) i fynd i'r afael â'r her hon yn ystod y 10 mlynedd nesaf.

Caiff yr ymchwil yng Nghaerdydd ei harwain gan yr Athro Alun Preece, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Troseddau a Diogelwch, gyda chymorth yr Athro Roger Whitaker a'r Athro Ian Taylor o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.

Cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Preece: "Gyda data mawr, yr hyn sy'n dod i'r meddwl fel arfer yw casgliadau o weinyddion cyfrifiadur mewn canolfannau data enfawr y gallwn fynd atyn nhw drwy gwmwl. Yn y prosiect yma, rydyn ni'n ceisio troi'r ganolfan ddata y tu chwith allan drwy gasglu a phrosesu data ger ymylon y rhwydwaith, er enghraifft mewn sefyllfaoedd ar lawr gwlad pan mae trychineb mawr yn digwydd.

"Ein nod yn y pen draw yw galluogi pobl a dyfeisiau cyfrifiadurol i gydweithio er mwyn rheoli sefyllfaoedd sy'n newid yn gyflym drwy greu canolfannau data deinamig rhithwir o gwmpas timau sy'n gweithio ar lawr gwlad.

"Mae'n gyffrous dros ben gallu croesawu aelodau eraill y gynghrair i Gaerdydd er mwyn dechrau ar y gwaith a chytuno ar sut byddwn yn mynd i'r afael â'r heriau mawr yma dros y pum mlynedd nesaf."

Yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd, mae'r partneriaid academaidd a diwydiannol yn cynnwys Airbus Group, BAE Systems, IBM, Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Talaith Pennsylvania, Prifysgol Purdue, Raytheon/BBN Technologies, Prifysgol Stanford, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol California yn Los Angeles, Prifysgol Massachusetts yn Amherst, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Yale.