Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn rhoi hwb o £3 biliwn i economi'r DU

28 Tachwedd 2016

Financial chart

Mae Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu bron i £3 biliwn at economi'r DU, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Roedd cyfanswm yr effaith economaidd y mae Prifysgol Caerdydd yn ei chael ar y DU wedi cyrraedd £2,918 miliwn yn 2014-15. Mae hwn yn gynnydd o 9.3% – neu £248 miliwn – o'i gymharu â £2,670.1 miliwn a gynhyrchwyd yn 2012-13.

Mae cyfraniad y Brifysgol at economi Cymru wedi cynyddu yn unol â'r ffigur ar gyfer y DU – o £2,036.7 miliwn yn 2012-13 i tua £2,204.8 miliwn yn 2014-15.

Yn gyffredinol, mae'r adroddiad, a gynhyrchwyd gan London Economics, yn dangos bod Prifysgol Caerdydd bellach yn cynhyrchu £6.36 am bob £1 y mae'n ei gwario, o'i gymharu â £6.26 yn 2012-13.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn sbardun economaidd a chymdeithasol pwysig. Mae adroddiad eleni yn dangos cynnydd sylweddol yn yr effaith economaidd yr ydym yn ei chael yn gyffredinol, ac yn cadarnhau bod gan brifysgolion rôl o ran sbarduno twf economaidd drwy sgiliau lefel uchel a gwaith ymchwil sy'n torri tir newydd."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prfiysgol Caerdydd

Ar yr un pryd â chyhoeddi'r adroddiad, cymeradwywyd cynlluniau'r Brifysgol ar gyfer y cam diweddaraf, gwerth £135 miliwn, o waith datblygu ar gampws arloesedd £300 miliwn newydd Prifysgol Caerdydd.

Bydd dau adeilad newydd ar y Campws Arloesedd yn dod ag ymchwilwyr, busnesau, cefnogwyr o'r sector cyhoeddus, a myfyrwyr at ei gilydd i ddatblygu syniadau sy'n sbarduno twf economaidd.

Byddant yn llunio prosesau sy'n creu dyfeisiadau technolegol, cwmnïau deillio, partneriaethau a chynhyrchion, a gwasanaethau newydd.

Bydd yr adeiladau diweddaraf yn cynnwys:

  • Y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – yr unig ganolfan o'i math yn y DU ar gyfer ymchwil drosiadol i led-ddargludyddion cyfansawdd.
  • Sefydliad Catalysis Caerdydd, a fydd yn cynnwys cyfleuster catalysis o'r radd flaenaf i gynorthwyo ein hymchwil ym maes y gwyddorau cemegol;
  • SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd, lle bydd academyddion yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddylunio a phrofi atebion i broblemau cymdeithas;
  • Y Ganolfan Arloesi - canolbwynt creadigol i egin fusnesau, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Feddygol, busnes arloesi clinigol newydd ym Mharc y Mynydd Bychan.

Comisiynwyd London Economics y llynedd i wneud y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o gyfanswm effaith economaidd a chymdeithasol y Brifysgol.

Mae adroddiad eleni wedi canfod bod y Brifysgol yn cefnogi mwy na 11,000 o swyddi: 5,516 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn ynghyd â 5,795 o swyddi eraill ledled y DU.

Mae'r Brifysgol yn dal i ddenu cyllid ar gyfer gwaith ymchwil. Gan adeiladu ar safle'r Brifysgol ymhlith y 5 uchaf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, mae'r dadansoddiad yn rhagweld bod gweithgarwch ymchwil wedi ychwanegu £664.1 miliwn at gyfraniad y Brifysgol at economi'r DU (cyfwerth â 23% o gyfanswm effaith economaidd y Brifysgol). Mae hwn yn gynnydd o £55 miliwn (neu 9%) o'i gymharu â'r dadansoddiad blaenorol.

Mae'r uchafbwyntiau eraill yn dangos:

  • Gwerth y gweithgareddau addysgu a dysgu oedd tua £966.2m yn 2014-15 (sy'n cyfateb i 33% o gyfanswm yr effaith economaidd).
  • Gyda mwy na 5,000 o fyfyrwyr o dramor yn dechrau astudio ar gyfer cymhwyster ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014-15, mae £217.2 miliwn o weithgarwch economaidd (sy'n cyfateb i 7% o'r cyfanswm) yn cael ei gynhyrchu drwy allforion addysg. Mae hwn yn gynnydd o 60% o gymharu â'r amcangyfrif blaenorol o £135.9m yn 2012-13.

Mae'r adroddiad yn nodi'r rôl sydd gan seilwaith ehangach Prifysgol Caerdydd o ran sbarduno arloesedd. Mae'n canmol rôl y Medicentre. Mae'r ganolfan, sydd wedi'i lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan, yn cynnig lle i gwmnïau newydd ym maes biowyddoniaeth a thechnoleg feddygol, ac yn datblygu syniadau arloesol sy'n gwella bywydau cleifion.

Mae'r adroddiad yn mynd y tu hwnt i economeg drwy ystyried effaith ehangach y Brifysgol – gan gynnwys mentrau rhyngwladol megis Prosiect Phoenix, sef prosiect cydweithredol gyda Phrifysgol Namibia sy'n cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau ym meysydd addysg, iechyd, cyfathrebu a gwyddoniaeth.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw cadw a gwella’r amgylchedd busnes yng Nghymru drwy gynnig mynediad hwylus i’n gwybodaeth a’n gwasanaethau a’n cysylltiadau gyda busnesau cenedlaethol a byd-eang.