Ewch i’r prif gynnwys

Gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan ddarganfyddiad tonnau disgyrchol

24 Tachwedd 2016

Gravitational Wave - Artwork
© Penelope Cowley

Mae paentiad olew mawr a ysbrydolwyd gan ganfod tonnau disgyrchol am y tro cyntaf erioed yn mynd i gael ei ddadorchuddio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd Penelope Cowley, artist lleol sy'n arbenigo mewn dod â chelf a gwyddoniaeth ynghyd, yn cyflwyno ei gwaith yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth y Brifysgol, ynghyd â fideo sy’n arddangos gogwydd artistig unigryw ar y darganfyddiad.

Mae'r paentiad yn cyfuno delweddu data o'r offer a ddefnyddiwyd i ganfod y tonnau disgyrchol cyntaf â dychmygu rhai o'r cyrff yn yr wybren sy'n gyfrifol am greu’r tonnau hyn, fel tyllau deuaidd du a sêr niwtron.

Cafodd y fideo ei greu ar y cyd â Dr Chris North ac Ed Fauchon-Jones, yn ogystal â’r peiriannydd sain Jason Charles Rogers, ac mae’n cynnwys 'rhinc' go iawn y don ddisgyrchol a ganfuwyd.

Albert Einstein a gynigiodd gyntaf yn 1916 fod tonnau disgyrchiant i’w cael, crychdonnau bach ydynt yng ngofod-amser sy'n cael eu hallyrru drwy’r gofod o ganlyniad i ddigwyddiadau cosmig hynod o rymus.

Chwaraeodd ymchwilwyr o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ran greiddiol yng nghydweithrediad LIGO (Arsyllfa Tonnau Disgyrchol Inferometer Laser) a ganfu don ddisgyrchol am y tro cyntaf fis Medi diwethaf.

Dros y ddau ddegawd diwethaf maent wedi arloesi gyda dulliau a ddefnyddiwyd i ganfod y tonnau cyntaf.

Wrth sôn am y gwaith celf, meddai Penelope: "Cefais fy ysbrydoli gan aruthredd llethol y darganfyddiad hwn ac ar ôl trafod â sawl aelod o staff yn y Brifysgol, meddyliais y byddai'n wych creu gwaith celf a oedd yn dathlu’r digwyddiad hanesyddol hwn yn ein hanes..."

"Wrth weithio ar y paentiad ceisiais ddychmygu’r data fel tonnau gweladwy ac yna gosodais strwythurau megis tyllau deuaidd du a sêr niwtron mewn Bydysawd amrywiol a phrysur."

Penelope Cowley Artist

Meddai’r Athro Mark Hannam o Brifysgol Caerdydd, aelod o dîm LIGO: "Mae natur bob amser wedi ysbrydoli ein dychymyg, ac wedi herio artistiaid i ddal ei harddwch..."

"Mae gwaith anhygoel Penny yn agor ffordd hollol newydd o ddychmygu mesuriadau cyntaf tonnau disgyrchol, o’u gweld, ac o wrando arnynt.”

Yr Athro Mark Hannam Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Mae Penelope eisoes wedi creu gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan waith magneteg a wnaed yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, ac mae hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC) Prifysgol Caerdydd.

Bydd y gwaith celf yn cael ei ddadorchuddio yn Ardal Goffi’r Oriel yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ar 25 Tachwedd rhwng 4 a 6 pm. www.peneloperosecowley.com

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.