Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect newydd yn ceisio cryfhau'r economi greadigol a diwylliannol

23 Tachwedd 2016

REACT Festival - The Rooms

Mae prosiect newydd i ddatblygu partneriaethau rhwng y sector celfyddydau a dyniaethau a phrifysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr, er mwyn sbarduno twf economaidd, wedi cael ei ariannu.

Mae Cynghrair GW4, sy'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd, sef Caerfaddon; Bryste; Caerdydd a Chaerwysg, wedi cael cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gynnal prosiect i annog cydweithio rhwng prifysgolion, sefydliadau diwylliannol ac awdurdodau lleol i dyfu'r economi greadigol a diwylliannol yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr.

Mae GW4 yn hen law ar gydweithio gyda rhai o'r sefydliadau mwyaf dylanwadol yn y rhanbarth i wneud gwaith ymchwil arloesol. Bydd y prosiect yn ychwanegu at yr ethos arloesol hwn, a llwyddiannau'r cynlluniau yn y rhanbarth, megis REACT, a oedd yn annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau, a busnesau bach a chanolig.

Dywedodd yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr Ymchwil yng Nghyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau: "Mae prifysgolion yn gweithio'n gynyddol mewn cynghreiriau cydweithredol yn eu rhanbarthau, gan gydweithio ar ymchwil, rhannu cyfleusterau a manteisio i'r eithaf ar gryfderau cyfunol y sefydliadau, er mwyn datblygu ymagweddau newydd at ymchwil. Yn aml, mae'r trefniadau hyn yn canolbwyntio ar ddisgyblaethau ym maes gwyddoniaeth. Fodd bynnag, mae gan y celfyddydau a'r dyniaethau lawer i'w gyfrannu, gan gynnwys themâu ymchwil trawstoriadol ac arloesedd ym meysydd fel yr economi greadigol. Maent hefyd yn ymgysylltu a chydweithio â sefydliadau a chymunedau y tu hwnt i'r byd academaidd.

"Mae'r gwaith y mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau wedi'i gefnogi'n flaenorol ym mhartneriaeth N8 wedi tynnu sylw at y potensial i brifysgolion yng Ngogledd Lloegr feddwl am y rôl gryfach y gallai'r celfyddydau a'r dyniaethau ei chael yng ngwaith y consortiwm mewn perthynas â thestunau ymchwil penodol. Mae prosiect GW4 yn rhoi cyfle i'r Cyngor, a'r prifysgolion sy'n cymryd rhan, i ystyried sut gall gwaith o'r fath gael ei ysgogi a'i wella drwy annog ymchwilwyr i arwain wrth arbrofi â phosibiliadau, ac i roi cynnig ar fodelau y gallai sefydliadau a grwpiau rhanbarthol eraill eu defnyddio yn y dyfodol."

Fel rhan o brosiect 'Llenwi'r Bwlch', bydd GW4 yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: yr economi greadigol, treftadaeth, ieithoedd modern a'r dyniaethau amgylcheddol.

Bydd y prosiect yn ymchwilio i werth ymchwil ym maes y celfyddydau a'r dyniaethau i'r economi greadigol a diwylliannol ranbarthol, a'r mecanweithiau sydd eu hangen i fanteisio ar y gwerth hwn. Bydd ymchwilwyr yn gwerthuso'r sefydliadau a'r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli, ac yn datblygu modelau i wella cysylltedd a datblygu partneriaethau newydd, yn seiliedig ar anghenion penodol pob ardal.

Dywedodd yr arweinydd academaidd, Tim Cole, Athro Hanes Cymdeithasol a Chyfarwyddwr y Sefydliad Brigstow ym Mhrifysgol Bryste: "Mae llawer o academyddion yn cydweithio'n agos â phartneriaid y tu allan i'r brifysgol, ond anaml iawn y cânt gyfle i fyfyrio ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu yn ystod y broses. Mae'r prosiect hwn yn gyfle i wneud hynny, ac i wthio pethau ychydig yn bellach drwy arbrofi gyda'n gilydd ar fecanweithiau newydd ar gyfer cydweithio ar draws y celfyddydau a'r dyniaethau, a'r sectorau treftadaeth ac economi greadigol sydd mor bwysig i'n heconomi a'n hunaniaeth ranbarthol."

Mae potensial enfawr i dyfu economi greadigol De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr, lle disgrifiwyd y cysylltiadau diwylliannol rhwng y dinasoedd fel 'cryf' mewn astudiaeth ddiweddar gan Nesta o'r enw 'The Geography of Creativity in the UK'.

"Mae cynlluniau fel REACT wedi dangos pa mor bwysig yw pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, a’r gwir fudd y gall hyn ei roi i’r economi ranbarthol. Yma yng Nghaerdydd, rydym wedi adeiladu ar yr etifeddiaeth gyfoethog hon o gydweithio drwy ein prosiect Caerdydd Creadigol. Mae’r prosiect hwn yn cysylltu pobl sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, busnes neu swydd greadigol yn rhanbarth Caerdydd. Rydym yn sylweddoli pa mor bwysig yw’r cysylltiadau hyn, felly mae’n bleser gennym fod yn rhan o brosiect GW4 ac edrych ymlaen at weld sut y gall hynny feithrin a gwella partneriaethau er mwyn cryfhau’r economi greadigol."

Yr Athro Gillian Bristow Deon Ymchwil yn y Coleg Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Daearyddiaeth Economaidd

Dywedodd yr Athro Fonesig Glynis Breakwell, Is-Ganghellor a Llywydd Prifysgol Caerfaddon a Chadeirydd Cyngor GW4: "Mae ein rhanbarth yn gartref i economi greadigol ffyniannus – y gorau o ran cyflogaeth, ar ôl Llundain – ac mae ganddo gryfderau ymchwil sylweddol ym maes y dyniaethau digidol. Rydym yn gyffrous i allu ychwanegu at y llwyddiannau hyn drwy gysylltu sefydliadau creadigol â phrifysgolion er mwyn hybu ein heconomi ranbarthol ac i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer sectorau'r celfyddydau, treftadaeth a diwylliant yn Ne-ddwyrain Cymru a De-orllewin Lloegr."

Canlyniad y prosiect fydd adroddiad â chyfres o argymhellion ar gyfer gwaith ymchwil a phartneriaethau yn y dyfodol i gryfhau'r economi greadigol a rhanbarthol, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2017.

Rhannu’r stori hon

Sefydlwyd cronfa ddata GW4 i hywluso rhannu offer ymchwil ar draws Prifysgolion Bryste, Caerdydd, Caerfaddon a Chaerwysg.