Ewch i’r prif gynnwys

Ail-greu'r map

15 Tachwedd 2016

Sepia map of South Africa with pin marker

Caiff prosiect ymchwil rhyngwladol newydd yn datgelu cyfnodau arwyddocaol yn hanes De Affrica a'r Iseldiroedd a'i effaith ar fasnach yn rhyngwladol ei gynnal gan ymchwilwyr yng Nghaerdydd a De Affrica.

Nod yr Hanesydd Modern Cynnar Dr Mark Williams o  Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd a'r Athro Daearyddiaeth Ffisegol Stefan Grab o Brifysgol Witswatersrand yw digido a chyfieithu cofrestri dyddiol y Dutch East India Company yn y Penrhyn Gobaith Da dros 44 o flynyddoedd yn cwmpasu twf, anterth a dirywiad y cwmni masnachol rhyngwladol mawr.

Mae'r cofnodion cyflawn yn cwmpasu traean o hanes y cwmni, ac fe'u cydnabyddir yn eang fel un o ffynonellau mwyaf gwerthfawr y byd ar gyfer astudio hanes byd-eang a rhanbarthol y 17eg a'r 18fed ganrif.

Title page of old document with serif font

Gan ddatgelu darlun dyddiol o wleidyddiaeth, diplomatiaeth, diet, anheddiad, masnach ac eithafion tywydd, caiff cofrestri'r Vereenigde Oost-Indische Compagnie (neu VOC) eu trawsgrifio cyn cael eu cyfieithu i'r Saesneg o'r Iseldireg a'u digido i alluogi ysgolheigion ledled y byd i'w cyrchu. Mae prosiect VOC daghregisters yn ychwanegu at waith sylweddol yr Ymddiriedolaeth Olrhain Hanes ar y cofnodion, sydd ers 2003 wedi'u dynodi'n rhan o raglen Cof y Byd UNESCO.

Mae deunaw mlynedd ar gael ar hyn o bryd yn yr Iseldireg gwreiddiol ac mewn cyfieithiad Saesneg, diolch i'r Ymddiriedolaeth Olrhain Hanes. Mae'r cofnodion cyflawn yn allweddol ar gyfer ateb nifer o gwestiynau am y cyfnod hwn o ehangu mawr mewn masnach ryngwladol, fydd yn galluogi mwy o astudiaethau nag erioed ar draws amrywiol ddisgyblaethau ysgolheigaidd.

Mae'r prosiect newydd yn canolbwyntio ar flynyddoedd allweddol mewn tri chyfnod arwyddocaol yn hanes y cwmni:

Twf ac Anterth 1608 – 1707

Cyfnod o ffynnu drwy uno Prydain a'r Iseldiroedd yn 1688 gyda choroni William III [Willem III o'r Iseldiroedd]

Bwrw Cysgod Graddol 1713 - 1730

O'r cyfnod o flodeuo tan y  diwedd, yn ystod 'Oes Aur Morladrata' a dyrchafiad y cystadleuydd allweddol, yr English East India Company (EIC)

Dirywiad 1780 - 1704

Cyfnod sylweddol o newid, pan gafodd digwyddiadau byd-eang fel y Chwyldro Ffrengig effaith fawr ar wleidyddiaeth a masnach

"Mae cofnodion y VOC yn y Penrhyn yn unigryw nid yn unig oherwydd yr olwg maen nhw'n ei chynnig ar hanes De Affrica dros y canrifoedd hyn, ond hefyd y lle oedd i'r Penrhyn mewn byd oedd yn globaleiddio..."

Dr Mark Williams Reader in Early Modern History, Director of Research and Impact

Mae daghregisters y VOC y cynnwys cofnod fwy neu lai di-dor o bresenoldeb y Cwmni yn yr hyn oedd yn ganolbwynt cynyddol bwysig o weithgarwch trawswladol," meddai Dr Williams.

Dywedodd yr Athro Grab, sy’n gweithio yn Johannesburg ac sy'n arbenigwr ar Newid Hinsawdd Hanesyddol: "Gan ddefnyddio fy arbenigedd mewn newid hinsawdd, byddaf yn archwilio patrymau tywydd y Penrhyn yn y 17eg a'r 18fed ganrif ac yn canfod y graddau y gallent fod yn wahanol i'r hyn a geir heddiw.

"Mae gennyf ddiddordeb arbennig i weld sut y bu ymsefydlwyr cynnar yn ymdopi ac addasu i eithafion tywydd a hinsawdd y gorffennol drwy amser. Mae digido'r cofnodion yn sicrhau y cânt eu cadw am byth, gan arbed eu cynnwys rhag difrod amser a dinistr posibl drwy ddigwyddiadau annisgwyl fel tân."

Old document with serif script

Gan weithio gydag archifwyr yn archifau Cape Town a Den Haag, bydd y cofnodion ar gael yn gyhoeddus i genedlaethau'r dyfodol ar-lein ac fel adnoddau addysgol ar ffurf PDFs a CD.

Gan ddechrau'r hydref hwn, bydd y prosiect werth £44,000 yn ceisio cwblhau ei gam cyntaf erbyn diwedd 2018, gan anelu at ddatblygu'r prosiect i gwmpasu 150 mlynedd o bresenoldeb yr Iseldiroedd yn neheudir Affrica yn llawn (1652 – 1795). Mae prosiect VOC daghregisters yn bosibl drwy gyllid gan Gronfa Newton yr Academi Brydeinig a Phrifysgol Witwatersrand.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.