Ewch i’r prif gynnwys

Cymeradwyo rhwydwaith arloesedd newydd y gwyddorau bywyd

9 Tachwedd 2016

CALIN Logo

Yn rhan o brosiect newydd €11.96m, bydd prifysgolion o'r radd flaenaf yng Nghymru ac Iwerddon yn cydweithio â busnesau bach a chanolig er mwyn datblygu cynhyrchion meddygol arloesol a allai chwyldroi sut rydym yn trin clefydau.

Bydd y rhwydwaith unigryw, sy'n cynnwys Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau FFeryllol  ac Ysgol Fiowyddorau Prifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar feysydd sy'n dod i'r amlwg fel meddygaeth fanwl gywir - dull o ddadansoddi a thrin cleifion mewn ffordd sy'n benodol ar eu cyfer.

Rhwydwaith Arloesedd Gwyddorau Bywyd Uwch Celtaidd (CALIN) yw enw'r rhwydwaith a chaiff ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd yn galluogi Cymru ac Iwerddon i wneud datblygiadau pwysig mewn sawl maes meddygol, yn ogystal â chynhyrchu swyddi newydd a denu buddsoddiad i'r ddwy wlad.

Meddai'r Athro Arwyn Jones o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd: "Mae prosiect CALIN yn gyfle unigryw i Gymru gyflymu arloesedd meddygol yn y rhanbarth ac aros ar flaen y gad mewn meysydd sy'n dod i'r amlwg yn y sector meddygol...”

“Drwy gydweithio'n agos â'n cymheiriaid yn Iwerddon a busnesau bach a chanolig ar draws y ddau ranbarth, gall prifysgolion Cymru helpu i ddatblygu cynnyrch arloesol fydd yn gwella sectorau iechyd a masnachol y ddwy wlad."

Yr Athro Arwyn Tomos Jones Professor of Membrane Traffic and Drug Delivery

Arweinir CALIN gan Brifysgol Abertawe ac mae hefyd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway, Coleg Prifysgol Cork, Unilever a GE Healthcare.

Meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC: "Mae gwyddorau bywyd yn sector pwysig yng Nghymru ac Iwerddon. Bydd yr arian hwn yn cefnogi ymchwil a datblygu, sy'n hanfodol er mwyn creu swyddi, technoleg a chynnyrch newydd.

"Mae'n newyddion gwych i dros 240 o fusnesau bach a chanolig, ac rydw i wrth fy modd y caiff arbenigedd y prifysgolion sy'n cymryd rhan ei rannu a'i ddefnyddio ar draws y ddwy wlad."

Meddai Paschal Donohoe, Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio Llywodraeth Iwerddon: "Mae rhaglen Cymru-Iwerddon yn dangos sut y gall arian yr UE gyfrannu at gydweithio'n llwyddiannus ar draws ffiniau - a hynny ar draws ffin forol y DU yn yr achos hwn. Mae prosiect CALIN yn enghraifft wych o sut mae'n cefnogi ymchwil a datblygu mewn prifysgolion er budd busnesau o bob maint. Mae'n arwain at swyddi newydd a rhagor o fuddsoddiad mewn technolegau newydd.

"Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos bod yr arian sy'n rhan o raglen Cymru-Iwerddon yn mynd rhagddo ac y gall buddiolwyr y rhaglen baratoi'n hyderus ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Iwerddon yn cefnogi'r rhaglen gant y cant ac mae wedi ymrwymo i'w rhoi ar waith yn llwyddiannus."

Bydd y rhwydwaith yn cynnig Ymchwil a Datblygiad, datblygiad technolegol ac arloesedd i fusnesau bach a chanolig ym maes meddygaeth fanwl gywir (diagnosteg, dyfeisiau a therapiwteg), meddyginiaeth adfywiol, a gwerthuso diogelwch a bio-gydnawsedd.

Bydd yr holl weithgareddau ymchwil a datblygu yn cynnwys partneriaeth rhwng cwmni bach neu ganolig a phrifysgol yng Nghymru neu Iwerddon dros gyfnod o 1-3 blynedd, gan ddibynnu ar natur y rhaglen ddatblygu.

Mae CALIN yn gobeithio ymgysylltu â thros 240 o fentrau ledled Cymru ac Iwerddon, a dylai busnesau bach a chanolig sydd â diddordeb gysylltu ar Athro Arwyn Jones.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.