Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect #Quartweets

3 Tachwedd 2016

Signum-Quartet

Preswyliaeth newydd yn ymchwilio i greadigrwydd cerddorol yn oes y cyfryngau cymdeithasol

Mewn oes sy'n gynyddol ddigidol, sut allwn ni ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i archwilio a rhannu creadigrwydd cerddorol?

Hwn yw'r cwestiwn y tu ôl i brosiect #quartweet gan ensemble siambr Almaeneg sydd â chyfnod preswyl yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Lansiodd y Pedwarawd Signum (a fu gynt yn Artistiaid Cenhedlaeth Newydd y BBC) brosiect #quartweet y llynedd yn ystod cyfnod preswyl â Cherddorfa Symffoni Princeton, gan wahodd cyfansoddwyr o bob oedran a gallu i drydar pedwarawdau byr, gwreiddiol â 140 o nodau neu lai. Mae'r Pedwarawd wedi ymrwymo i chwarae pob darn a gânt a, lle bo modd, byddant yn chwarae'r darnau hyn yn eu cyngherddau, yn ogystal â recordio mewn gweithdai.

Mae'r Pedwarawd bellach wedi dechrau cyfnod preswyl newydd mewn partneriaeth â'r Ysgol Cerddoriaeth a'r cyfansoddwr Dr Robert Fokkens, gan gynnwys cyngherddau a gweithdai sydd ar y gweill gyda myfyrwyr cyfansoddi.

Dywedodd Xandi van Dijk, feiolinydd y pedwarawd: "Mae'r cyfryngau cymdeithasol wrth wraidd y newid i'r modd rydym yn cyfathrebu â'n gilydd, ac roeddem am ehangu'r arbrawf cyfathrebu hwn i fyd cerddoriaeth a chyfansoddiadau ar gyfer pedwarawd. Mae unrhyw un sydd wedi trydar o'r blaen yn gwybod bod yn rhaid i chi fynegi eich hun mewn modd gwahanol a mwy cryno. Mae hyn yn ei dro wedi cael effaith, er gwell neu er gwaeth, ar sut rydym yn cyfathrebu. Gallwn ystyried #quartweets nid yn unig yn fodd newydd o gyfathrebu'n gerddorol, ond hefyd fel ymarfer cyfansoddi cryno."

Dywedodd Dr Robert Fokkens, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfansoddi yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd: "Yr hyn sy'n hynod ddiddorol am #quartweets yn fy marn i yw sut mae'r cysyniad hwn yn gysylltiedig â chymaint o agweddau ar sut rydym yn defnyddio ac yn cael ein dylanwadu gan y cyfryngau cymdeithasol – er enghraifft, y ffaith bod yn rhaid i ni gyfathrebu mewn modd cryno a phendant; agosatrwydd ac uniongyrchedd ein cyfathrebu, a'r ffaith iddo gael ei ddemocrateiddio; y berthynas rhwng cyfryngau electronig a chyfryngau 'byw', a llawer mwy."

Bydd Pedwarawd Signum yn perfformio cyngherddau i'r cyhoedd yn Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys quartweets a cherddoriaeth gan Schubert, Fokkens, Mozart, Widman, Dowland a Peter Louis van Dijk am 7pm ddydd Mawrth 8 Tachwedd ac 1pm ddydd Mercher 9 Tachwedd. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am docynnau, ar gael yma.

Gall cyfansoddwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno eu #quartweets eu hunain gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn, ac am yr hyn sy'n cyfri fel 'nodau', ar dudalen we'r prosiect.

Rhannu’r stori hon