Ewch i’r prif gynnwys

Pigion barddoniaeth America Ladin yn dod i Gymru

13 Hydref 2016

Fiction Fiesta 2016

Mae detholiad newydd o farddoniaeth America Ladin yn cael ei lwyfannu yn nigwyddiad Ffiesta Ffuglen eleni mewn partneriaeth rhwng Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd a Wales PEN Cymru.

Bydd beirdd o'r Ariannin a Mecsico yn cynnig blas deniadol o’r gwaith sydd yn The Other Tiger: Recent Poetry from Latin America, gyda chyfieithiadau gan yr Athro Richard Gwyn, yn y digwyddiad cyhoeddus am ddim ddydd Mercher 26 Hydref.

Yn lansiad y detholiad cyntaf o farddoniaeth America Ladin y ganrif hon, bydd y beirdd Jorge Fondebrider a Marina Serrano (yr Ariannin) a Carlos López Beltrán ac Alicia García Bergua o Fecsico yn rhoi darlleniadau byr yn ystod gwibdaith yn y DU sy’n cynnwys Llundain, Caerdydd, Caeredin a Newcastle.

“Detholiad rhyfeddol . . . mae’r cyfieithiadau’n brydferth ac yn gryno. Dyma lyfr ddylai fod ym mhob llyfrgell” – Edith Grossman, cyfieithydd Gabriel García Márquez a Mario Vargas Llosa

Mae The Other Tiger yn dod â lleisiau modern o America Ladin ar ôl 1945 at ei gilydd am y tro cyntaf, a dyma’r unig brif gasgliad o farddoniaeth America Ladin sydd ar gael yn y byd Saesneg ei iaith. Mae enwau cyfarwydd a lleisiau newydd i’w gweld yn y gyfrol o 156 cerdd gan gynnwys bron i 100 bardd o 16 gwlad.  Cyhoeddwyd y casgliad arloesol gan Seren, ac mae’n waith yr awdur arobryn Richard Gwyn.

Mae’r bardd, y nofelydd a’r cyfieithydd o Gymru wedi cyhoeddi barddoniaeth mewn cyfieithiad o’r Sbaeneg, y Gatalaneg a’r Dyrceg. Mae’r Athro Gwyn yn Bennaeth Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd a bu’n Llysgennad Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2014, gan gwrdd â beirdd ar draws rhanbarth America Ladin. Enillodd ei gofiant diweddaraf, The Vagabond’s Breakfast, Wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn y categori ffeithiol greadigol.

Meddai’r Athro Gwyn: "Rwyf wrth fy modd o gael dod â’r beirdd cyffrous a blaenllaw hyn i sylw ehangach drwy bartneriaeth Ffiesta Ffuglen â Wales PEN Cymru ac o gael parhau i hyrwyddo ysgrifennu America Ladin. Gan fod Is-gennad Anrhydeddus Mecsico wedi cael ei benodi yng Nghaerdydd, ac yn ystod y flwyddyn y mae’r Ariannin yn dathlu 200 mlynedd o annibyniaeth, mae'n briodol cyflwyno detholiad o feirdd enwocaf y gwledydd hyn i Gymru er mwyn rhannu eu gwaith."

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda thrafodaeth rhwng Gwyn a Fondebrider ynghylch cyfieithu a tharddiad y detholiad newydd. Bydd derbyniad gwin ym mhresenoldeb cynrychiolwyr llysgenadaethau’r Ariannin a Mecsico a Glynn James Pegler, Is-gennad Anrhydeddus Mecsico i Gymru.

Mae Ffiesta Ffuglen yn rhan o Wythnos y Byd #WeAreInternational ac mae’n digwydd yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd ddydd Mercher 26 Hydref am 5.30 pm.  I gadw tocynnau am ddim, ewch yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.