Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaid Prifysgolion Cymru yn diogelu Rhwydwaith Iaith Cymru gyfan

12 Hydref 2016

Globes

Mae prosiect cydweithredol allgymorth sy'n ceisio cynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd tramor modern wedi'i ddiogelu gan brifysgolion Caerdydd a Bangor.

Mae Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn hyrwyddo gwelededd a phroffil ieithoedd tramor modern yng Nghymru a'r niferoedd sy'n dewis eu hastudio.

Yn y gorffennol, cefnogwyd y prosiect gan fwrdd arholi Cymru, CBAC.  Fodd bynnag, yn ystod y sesiwn academaidd ddiwethaf, penderfynodd CBAC na allai gynnal y rhwydwaith mwyach.

Er mwyn diogelu dyfodol Llwybrau at Ieithoedd Cymru, mae prifysgolion Caerdydd a Bangor wedi cytuno i gynnal y prosiect ar y cyd, a rhannu'r dyletswyddau rheoli gweinyddol am 12 – 18 mis. Cafwyd cymorth ariannol ychwanegol gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, dau o'r pedwar consortia addysg yng Nghymru: Consortiwm Canolbarth y De a Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (De-ddwyrain Cymru), yn ogystal â Chyngor Prydeinig Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru.

Prifysgolion Caerdydd a Bangor fydd y prif ganolfannau yn y de a'r gogledd a byddant yn cynnal y prosiect ar y cyd. Mae dau Gydlynydd Prosiect wedi'u penodi, gyda'r naill yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a'r llall yn Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau Prifysgol Bangor; bydd hyn yn diogelu gweledigaeth a gwerthoedd y prosiect.

Mae parhau i ariannu Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn newyddion cadarnhaol i fyfyrwyr yng Nghymru o ystyried y ‘gostyngiad aruthrol’ yn nifer y myfyrwyr sy’n manteisio ar gyrsiau ieithoedd tramor modern.

Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, Arweinydd Academaidd Llwybrau at Ieithoedd Cymru: "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gychwyn ar gyfnod nesaf Llwybrau at Ieithoedd Cymru; nid yw aildrefnu’r dull llywodraethu yn newid ein bwriad. Byddwn yn paratoi cynllun i wneud yn siŵr bod y rhwydwaith yn gynaliadwy yn y tymor, gan gadw mewn cysylltiad â'n rhanddeiliaid yn barhaus.

"Mae disgyblion ledled Cymru wedi rhyngweithio â 'n gweithgareddau gyda brwdfrydedd ac angerdd hyd yma ac edrychwn ymlaen at hyrwyddo ieithoedd tramor modern gyda charfan newydd o ddisgyblion y byddwn yn dechrau gweithio gyda nhw’r mis yma drwy ein hyfforddiant Llysgennad Myfyrwyr Iaith."

Rhwng 2015 a 2016, ymgysylltodd Llwybrau at Ieithoedd Cymru â thros 8,000 o ddisgyblion ifanc ledled Cymru. Mae’r rhwydwaith yn cynnig rhaglen o weithgareddau bywiog sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion. Mae wedi'i chynllunio i annog myfyrwyr i fynd ar drywydd ieithoedd wrth symud ymlaen drwy eu haddysg, ac ystyried astudio dramor. Mae gweithgareddau blaenllaw’r rhwydwaith yn cynnwys:

  • Cystadleuaeth Sillafu ar gyfer disgyblion blwyddyn 7.
  • Hyfforddiant Llysgennad Iaith Myfyrwyr i godi proffil ieithoedd tramor modern mewn ysgolion a chynnig datblygiad gyrfa ar gyfer myfyrwyr israddedig.
  • Cynllun Llysgenhadon Iaith Disgyblion sy'n hyrwyddo ieithoedd mewn addysg gynradd, uwchradd ac addysg bellach.
  • Dosbarthiadau Meistr rheolaidd mewn gweithdai ffilm a llenyddiaeth Gymraeg.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw un o’r canolfannau ieithoedd modern mwyaf a mwyaf dynamig yn y Deyrnas Unedig.