Ewch i’r prif gynnwys

Adnewyddu cytundeb i ariannu partneriaeth hirsefydlog

11 Hydref 2016

Julian Hodge atrium

Mae Sefydliad Hodge wedi cadarnhau y bydd yn adnewyddu ei gytundeb i gefnogi Sefydliad Macroeconomeg Gymwysedig Julian Hodge, sy'n rhan o Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, gan addo £100,000 i ariannu gwaith y Sefydliad ymchwil am flwyddyn arall.

Cafodd y Sefydliad, sy'n gysylltiedig ag adran Economeg Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, ei agor ym 1999. Arweinydd y Sefydliad yw'r macroeconomegydd nodedig yr Athro Patrick Minford, cyn-gynghorydd i Margaret Thatcher.

Mae'r Athro Minford hefyd yn Gynghorydd Economaidd i Fanc Hodge a Hodge Lifetime, sef prif fuddiannau masnachol grŵp Hodge, sydd wedi'i seilio yng Nghaerdydd.  Elusen yw Sefydliad Hodge, sy'n cefnogi meysydd meddygol, academaidd, addysgol,  a materion lles, ac mae'n berchen ar fwy na 75% o'r busnesau hyn.

Pan agorwyd y Sefydliad ei brif nod oedd cynnal gwaith ymchwil ynglŷn â pherfformiad economi'r DU, a rhoi ystyriaeth benodol i'w pherthynas ag economïau Ewrop. Mae'r gwaith ymchwil wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi bod yn hynod berthnasol o safbwynt cymdeithasol a gwleidyddol wrth i Ewrop ymdrin â'r chwalfa economaidd byd-eang, yr argyfwng yn Ardal yr Ewro, ac yn fwy diweddar, refferendwm y DU ynglŷn ag aelodaeth o'r UE.

Mae gwaith ymchwil y Sefydliad yn cwmpasu masnachu rhyngwladol, arian a bancio, y diwydiant cyllid rhyngwladol ac econometreg. Gwaith cydweithredol a rhyngddisgyblaethol ydyw, sy'n cynnwys tua 20 o academyddion, yng Nghaerdydd gan fwyaf, a bron i 30 o fyfyrwyr PhD.

Dywedodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn croesawu penderfyniad Sefydliad Hodge i barhau i ariannu Sefydliad Macroeconomeg Gymwysedig Julian Hodge. Mae gwaith y Sefydliad, sydd wedi'i arwain gan yr Athro Patrick Minford, wedi bod yn rhagorol."

"O ystyried canlyniad refferendwm yr UE o blaid gadael, mae gwaith y Sefydliad i ddeall perthynas economi'r DU ag economïau Ewrop yn bwysicach nag erioed."

Yr Athro Martin Kitchener Deon Ysgol Busnes Caerdydd

"Edrychwn ymlaen at barhau â'n perthynas broffesiynol agos â Sefydliad Hodge, a hoffem ddiolch iddynt am eu cymorth a'u cefnogaeth barhaus."

Yn ogystal â'r £100,000 ar gyfer ein Sefydliad, mae Sefydliad Hodge wedi cadarnhau y bydd yn parhau i gefnogi'r rhaglen PhD am ddwy flynedd am gost o £40,000.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd a Sefydliad Hodge wedi mwynhau perthynas waith hir a llwyddiannus sydd wedi cynnwys gwaith ymchwil yn ogystal â chymorth ar gyfer gwobrau a lleoliadau myfyrwyr. Mae'r Ysgol hefyd yn gartref i Adeilad Syr Julian Hodge, ac mae ganddi ddwy Broffesoriaeth a enwyd ar ôl y sylfaenydd – yr Athro Syr Julian Hodge mewn Bancio a Chyllid a'r Athro Syr Julian Hodge mewn Marchnata a Strategaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.