Ewch i’r prif gynnwys

Rhowch y blaned yn gyntaf, meddai sylfaenydd JoJo Maman Bébé

3 Hydref 2016

Laura Tenison in Robes

Gall arloeswyr roi'r blaned o flaen elw, yn ôl perchennog y cwmni blaenllaw ar gyfer mamau a babanod, JoJo Maman Bébé.

Mae Laura Tenison MBE yn credu bod troi syniadau yn gynnyrch newydd yn mynd law yn llaw â rhedeg busnes moesegol.

Bydd sylfaenydd y cwmni o Gasnewydd yn traddodi darlith gyntaf 'Cartref Arloesedd' Prifysgol Caerdydd mis nesaf (17 Tachwedd).

Bydd Ms Tenison yn dweud wrth y gynulleidfa gyhoeddus sut y dylai busnes fod yn rym er gwell lle caiff llwyddiant ei fesur 'nid yn unig ar sail yr arian a gaiff ei wneud, ond hefyd drwy eich cyfraniad at gymdeithas yn gyffredinol.'

Mae gan JoJo Maman Bébé 75 o siopau ledled y byd a throsiant o £55m, ond arloesedd moesegol yw hanfod y busnes yn ôl Ms Tenison.

"Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar ddod o hyd i ateb synhwyrol i broblem gyffredin, bod yn ddigon effro i'w werthu'n gyflym ac yn effeithlon, yn ogystal â bod yn ddigon cadarn i aros am y cyfle cywir os ydym ychydig yn rhy gynnar.

"Arloesedd yw hanfod y busnes. Roedd gennym wefan ymhell cyn i Mothercare gael un, ac rydym wedi dyfeisio a chynhyrchu popeth gan gynnwys manylion dylunio dillad babanod a'n cynnyrch mamolaeth a nyrsio arbenigol."

Cafodd Ms Tenison, sy'n Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd, ei henwi'n  un o Wynebau Economi Ffyniannus Grant Thornton yn ddiweddar.

Laura Tenison in line-up

Mae'n fam i ddau o blant ac fe greodd ei busnes gydag un peiriant gwnïo mewn gweithdy gwaith coed segur ger Pont-y-pŵl ym 1993.

Yn ystod y ddarlith, bydd Ms Tenison yn egluro pam mae JoJo Maman Bébé yn gwmni 'B Corp' ardystiedig - sy'n defnyddio pŵer busnes i ddatrys problemau cymdeithasol ac amgylcheddol.

"Mae gennym gôd ymddygiad llym wrth redeg y busnes, ac mae hynny ynddo'i hun yn gam arloesol.

"Mae defnyddwyr eisiau prynu gan gwmnïau sydd â safonau moesegol parod, ac mae gweithwyr eisiau gweithio iddyn nhw."

Adeiladodd Laura Tenison ei busnes gyda chymorth benthyciad o £2,000, a hynny ar ôl cael ei gwrthod gan fanciau'r Stryd Fawr.

"Os ydych am greu busnes fydd yn para, rhaid ymgorffori moeseg ac arloesedd. Gwneud yn dda tra'n gwneud yr hyn sy'n iawn – dyna'r elw triphlyg."

Laura Tenison MBE Sylfaenydd a Prif Swyddog Gweithredol, JoJo Maman Bébé

Darlith y 'Cartref Arloesedd' yw'r gyntaf mewn cyfres achlysurol o sgyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd lle gwahoddir arloeswyr blaenllaw i rannu eu profiadau â myfyrwyr, arweinwyr busnes a'r cyhoedd.

Cynhelir y digwyddiad yn Ysgol Busnes Caerdydd, sydd wedi ymrwymo i strategaeth Gwerth Cyhoeddus uchelgeisiol newydd a fydd yn sicrhau gwelliannau cymdeithasol ochr yn ochr â gwelliannau economaidd.

I gael tocynnau ar gyfer y ddarlith, ewch i'n tudalen digwyddiadau.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.