Y Brifysgol yn paratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd
29 Medi 2016
Mae staff a myfyrwyr yn paratoi ar gyfer penwythnos o weithgareddau sy'n gysylltiedig â rhedeg yn rhan o'n partneriaeth â Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd.
Cynhelir Gŵyl Redeg ddydd Sadwrn, 1 Hydref, fydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i bobl a phlant o bob oed. Caiff ei chynnal drwy'r dydd a bydd yn rhagflas ar gyfer hanner marathon y diwrnod canlynol.
Mae'r ŵyl yn cynnwys ras hwyl i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ras y masgotiaid, gyda Dylan y Ddraig o'r Brifysgol ymhlith y cystadleuwyr, yn ogystal â ras hwyl i'r teulu.
Ras 2.4km o hyd o gwmpas y Ganolfan Ddinesig, Gerddi Alexandra a Ffordd y Gogledd yw ras hwyl y myfyrwyr.
Bydd nifer fawr o staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr yn cymryd rhan yn y prif ddigwyddiad fore Sul. Bydd y rhain yn cynnwys y 200 o redwyr sy'n rhan o #TîmCaerdydd a gwirfoddolwyr sydd â rôl bwysig wrth gefnogi'r digwyddiad.
Mae rhedwyr #TîmCaerdydd wedi addo codi arian ar gyfer ymchwil canser neu ddementia ac ymchwil iechyd meddwl y Brifysgol.
Yn y cyfamser, bydd ffisiotherapyddion o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y Brifysgol ar gael ar ôl y ras i gynnig tyliniad i redwyr blinedig mewn pabell ym mhentref y rhedwyr ger Neuadd y Ddinas.
Bydd gan y Brifysgol ei phabell ei hun hefyd lle cynhelir amrywiaeth o weithgareddau i bobl a phlant o bob oed drwy gydol y penwythnos.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Hanner Marathon Caerdydd yw un o uchafbwyntiau calendr chwaraeon y ddinas ac mae wedi ennill ei blwyf erbyn hyn fel un o gystadlaethau hanner marathon mwyaf poblogaidd y DU.
"Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y penwythnos, yn enwedig rhedwyr a gwirfoddolwyr y Brifysgol."
Yr Athro Riordan fydd yn dechrau'r garfan gyntaf o redwyr am 10:00 fore Sul.
Bydd BBC One Wales yn darlledu'r ras yn fyw, a bydd rhagor o sylw ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Bydd y nifer uchaf erioed o redwyr yn cymryd rhan eleni ar ôl i bob un o'r 22,000 o leoedd gael eu gwerthu ymlaen llaw.
Gorffennodd dros 16,000 o redwyr Hanner Marathon Caerdydd yn 2015, gan olygu ei fod yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU, y tu ôl i'r Great North Run.
Mae ein partneriaeth gyda Hanner Marathon Caerdydd yn ategu ein cefnogaeth ar gyfer Hanner Marathon y Byd IAAF a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn gynharach eleni. Bryd hynny, cafodd miloedd o redwyr y cyfle i gystadlu ochr yn ochr â 200 o athletwyr o'r safon uchaf, gan gynnwys y pencampwr Olympaidd, Mo Farah.