Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyrwyr yn sefydlu cwmni biodechnoleg yn India

2 Medi 2016

Indoor Biotechnologies

Mae myfyriwr graddedig o Gaerdydd a chyn-gymrawd ymchwil, hefyd o Brifysgol Caerdydd, wedi ailymgynnull i lansio cwmni biodechnoleg newydd yn India.

Bu Dr James Hindley (Hons 2011) a Dr Sivasankar Baalasubramanian yn cydweithio yn yr Ysgol Meddygaeth.

Mae'r cwmni newydd yn India'n chwaer gwmni i Indoor Biothechnologies - cwmni arloesol sy'n profi alergenau ym Medicentre Caerdydd.

Agorwyd labordy a swyddfa newydd Indoor Biothechnologies yng Nghanolfan Bioarloesedd Bangalore.

Mae hyn yn dilyn cynnydd rhagorol y cwmni dros bedair blynedd ym Medicentre Caerdydd - canolfan meithrin biodechnoleg a thechnoleg feddygol ar gampws Parc y Mynydd Bychan, Prifysgol Caerdydd.

Mae Indoor Biothechnologies yn masnachu mewn dros 50 o wledydd erbyn hyn, gan gynnwys UDA, ac maent yn cynnig cynnyrch a gwasanaethau ym maes alergedd.

Ymhlith eu cleientiaid, mae alergyddion ac imiwnolegwyr yn y byd academaidd, y llywodraeth a chwmnïau fferyllol a diagnosis, yn ogystal â chwsmeriaid yn Ewrop, Asia, y Dwyrain Canol ac Awstralasia.

Dywedodd Dr James Hindley, Cyfarwyddwr Gweithredol Indoor Biothechnologies: "Hanfod ein busnes yw synhwyro alergenau a chynnig cynnyrch a gwasanaethau sy'n synhwyro, mesur a chaniatáu ymchwil mewn alergenau sy'n deillio o baill, bwyd, anifeiliaid a gwiddon.

"Rydym hefyd yn datblygu'n gynyddol ym meysydd synhwyro alergenau amlgyfrwng, gweithio ar ddatblygiadau imiwno-adnabod, a chontractau ymchwil i allu rhoi diagnosis, triniaeth a rheoli alergeddau cyffredin yn gyflymach ac yn fwy effeithiol."

Awgryma'r ffigyrau bod tua 350 miliwn o bobl yn India'n dioddef o alergedd, ond ychydig iawn a wyddwn am eu prif achosion.

"Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ennill ein plwyf ym masnach Asia - dyma ran greiddiol o'n gweledigaeth," meddai Dr Hindley.

Mae'r cwmni'n bwriadu defnyddio'i arbenigedd a thechnoleg i greu cyfarpar synhwyro alergenau a fydd yn gwella ansawdd yr aer y tu mewn i adeiladau yn ogystal â'r amgylchedd yn ehangach, ynghyd â diogelwch bwydydd i ddioddefwyr alergedd yn India.

Mae'r cwmni hefyd yn awyddus i ehangu ei bresenoldeb a'i ystod o gynnyrch a gwasanaethau yng Nghymru.