Ewch i’r prif gynnwys

Darlledwr profiadol i dynnu sylw at fradychu pobl Aberfan

2 Medi 2016

Lilly

Bydd y darlledwr profiadol Vincent Kane yn rhoi dyfarniad deifiol ar drychineb Aberfan mewn cynhadledd a gynhelir yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd ar 8 Medi 2016 – fis cyn yr 50 mlwyddiant.

Bydd Kane, a adroddodd ar y trychineb ym 1966 a'i adladd, yn rhoi dyfarniad newyddiadurwr ar y rhai sydd ar fai am y ffaith y llithrodd tomen glofa i lawr mynydd ac amgylchynu'r ysgol gynradd yn Aberfan, ger Merthyr Tudful, a lladd 116 o blant a 28 o oedolion – ac ar y ffordd y cafodd y gymuned ei thrin wedyn.

Cred yr oedd cynllwyn o ddistawrwydd cyn y trychineb ymhlith y rhai a oedd yn gwybod bod perygl gwirioneddol y gallai’r domen lithro – gan gynnwys y Bwrdd Glo ac Undeb y Glowyr.

Bydd yn dweud: "Wrth edrych yn ôl 50 mlynedd, sut gallwn fethu â dod i'r casgliad mai’r achos sylfaenol oedd y pwysau mawr a roddwyd ar gymuned mwyngloddio glo ofnus gan bolisi’r Bwrdd Glo Cenedlaethol o gau pyllau glo yn eang a chyflym a oedd ar waith, a gefnogwyd gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr a dwy lywodraeth, y Ceidwadwyr ac yna Llafur."

Ond bydd Kane yn dadorchuddio bradychiad arall, yn sgil y trychineb – gan y cyfryngau, ac yr oedd ef ei hun yn aelod amlwg ohonynt.  Cyhoeddwyd straeon sydd wedi paentio’r gymuned mewn golau gwael, yn arbennig mewn perthynas â dosbarthu arian o'r Gronfa Drychineb.

Yn y blynyddoedd yn dilyn 1966, meddai, datblygodd ‘hinsawdd gyffredinol o farn’ ble gwelwyd y gymuned sydd wedi goroesi fel 'y broblem'.  Fe’i cyhuddwyd o fod yn 'bobl letchwith, barus, trachwantus, trafferthus', pan, mewn gwirionedd, meddai, nhw oedd y dioddefwyr. Cred y methodd y cyfryngau ehangach amlygu’r celwyddau.

"Mae gan y wasg, y cyfryngau, y Wasg, gyfrifoldeb diysgog i holi ac i dreiddio. Yn ystod cyfnod Aberfan, efallai awr dywyllaf Gymru yn yr 20fed ganrif, dylem wedi bod yn angerddol wrth fynd ar drywydd y gwirionedd. Yn lle hynny roeddem ni’n ddifflach."

Vincent Kane OBE Darlledwr ac awdur Cymreig

Bydd Vincent Kane yn siarad mewn cynhadledd undydd yn Adeilad Bute Prifysgol Caerdydd ar ddydd Iau 8 Medi  ‘Aberfan – Cofio, Anghofio a Symud Ymlaen: Trafodaeth '. Ymhlith y cyfranwyr eraill bydd goroeswyr y trychineb a newyddiadurwyr sydd wedi adrodd ar stori Aberfan dros y degawdau.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn rhad ac am ddim ond rhaid cadw lle yma.