Ewch i’r prif gynnwys

Ar flaen y gad yn gwella bydwreigiaeth

24 Awst 2016

WHO CC Meeting Glasgow

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi dynodi'n swyddogol fod Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn ganolfan gydweithio ym maes datblygu bydwreigiaeth, gan olygu bod y Brifysgol ar flaen y gad yn natblygiad y maes gofal iechyd hanfodol hwn.

Y ganolfan hon fydd yr unig o'i math yn rhanbarth Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, ac yn un o ddim ond dwy ganolfan gydweithio ledled y byd sy'n canolbwyntio ar fydwreigiaeth yn unig.

Yr Athro Billie Hunter o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd wedi'i phenodi'n Gyfarwyddwr y ganolfan gydweithio newydd.

Meddai'r Athro Hunter: "Pleser o'r mwyaf yw cael fy mhenodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithio newydd Sefydliad Iechyd y Byd ym maes datblygu bydwreigiaeth. Mae'n anrhydedd ac yn fraint, i mi'n bersonol ac i Brifysgol Caerdydd.

"Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gael cyfleoedd yn y dyfodol i weithio gyda'r tîm bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â galluogi cydweithwyr rhyngwladol i gyfrannu at waith pwysig Sefydliad Iechyd y Byd."

Ychwanegodd Galina Perfilieva, Rheolwr Rhaglenni Adnoddau Dynol Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop: "Rydym yn falch iawn o groesawu Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd i rwydweithiau Ewropeaidd a byd-eang o ganolfannau cydweithio Sefydliad Iechyd y Byd ym meysydd nyrsio a bydwreigiaeth.

"Dros y blynyddoedd, mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud cyfraniad pwysig at fydwreigiaeth, ac mae cael ei dynodi'n ganolfan gydweithio yn gydnabyddiaeth o'i hymdrechion.

"A ninnau'n un o ganolfannau cydweithio Sefydliad Iechyd y Byd, bydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynhyrchu tystiolaeth ac arferion da ym maes bydwreigiaeth, ac yn rhoi cyngor technegol i aelod-wladwriaethau Sefydliad Iechyd y Byd."

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amlygu bydwreigiaeth mewn nifer o bolisïau fel yr allwedd ar gyfer gwella iechyd mamau a babanod ledled y byd. Amcangyfrifir y bydd angen 18m yn rhagor o fydwragedd a nyrsys yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd incwm isel, i wneud yn siŵr bod darpariaeth ddigonol ar gyfer poblogaeth y byd erbyn 2030.

Mae gan y ganolfan gydweithio newydd arbenigedd mewn amrywiaeth eang o addysg ym maes bydwreigiaeth, ac mae cynllun gwaith wedi'i lunio fydd yn atgyfnerthu polisïau ehangach Sefydliad Iechyd y Byd. Dyma rai o'r prif feysydd ffocws:

  • helpu Sefydliad Iechyd y Byd i amlinellu addysg bydwreigiaeth ledled Ewrop, er mwyn monitro cynnydd
  • datblygu adnodd sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwledydd sydd am ddatblygu rhaglen bydwreigiaeth
  • rhoi cyngor arbenigol i wledydd am addysg bydwreigiaeth a datblygu'r cwricwlwm (er enghraifft, ym mis Tachwedd 2015, ymwelodd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ag Uzbekistan ar gais llywodraeth y wlad honno)

Wrth siarad am bwysigrwydd cydweithio, dywedodd yr Athro Hunter: "Bob blwyddyn, mae dros 300,000 o fenywod yn marw oherwydd cyflyrau sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd, ac mae modd atal 90% o'r marwolaethau hyn. Rydym yn gwybod y gall bydwreigiaeth o ansawdd atal dros 4 o bob 5 marwolaeth famol. Fodd bynnag, mewn llawer o wledydd, nid yw bydwragedd yn cael eu hyfforddi'n dda na'u cefnogi yn eu gwaith.

Yn y Ganolfan Gydweithio, byddwn yn cefnogi Sefydliad Iechyd y Byd i gryfhau addysg ac ymarfer bydwreigiaeth ar draws 53 aelod-wladwriaeth rhanbarth Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, er mwyn gwella ansawdd y gofal a roddir i famau a babanod.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydweithio ochr yn ochr â llywodraethau amrywiol a phartneriaid eraill er mwyn diogelu iechyd pawb hyd at y lefel uchaf sy'n bosibl. Mae wedi bod yn weithredol ers bron i 70 mlynedd ar ôl ei sefydlu ym 1948 ac mae ganddo swyddfeydd mewn dros 150 o wledydd erbyn hyn. Bydd y Brifysgol yn ymuno â thros 700 o ganolfannau cydweithio mewn 80 o wledydd sy'n cefnogi rhaglenni Sefydliad Iechyd y Byd.