Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i weithgynhyrchu gwerth uchel yng Nghymru

22 Awst 2016

Manufacturing

Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd ar fin chwarae rhan flaenllaw mewn gweithrediad newydd gwerth £14m a gefnogir gan yr UE. Nod y gweithrediad yw ysgogi twf cynaliadwy a thrawsnewidiol mewn diwydiant gweithgynhyrchu gwerth uchel yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd.

ASTUTE Logo

Mae gweithrediad ASTUTE 2020, yn dod ag arbenigedd o brifysgolion Cymru ynghyd i ddatblygu a mabwysiadu uwch-dechnolegau, ein gwneud yn fwy cystadleuol a sbarduno twf.

EU Logo

Bydd y gweithrediad, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn hybu ymchwil, datblygiad ac arloesedd diwydiannol drwy fanteisio ar arbenigedd academyddion ac arbenigwyr technegol.

Mae tîm gweithrediad ASTUTE 2020 Caerdydd yn cynnwys ymchwilwyr o sawl disgyblaeth ar draws y Brifysgol. Arweinir y gweithrediad hwn gan yr Athro Rossi Setchi o'r Ysgol Peirianneg gyda cefnogaeth y cyd-cyfarwyddwyr Yr Athro Mohamed Naim o Ysgol Busnes Caerdydd a’r Athro Ian Weeks o'r Ysgol Meddygaeth.

Mae'r tîm eisoes wedi dechrau gweithio ar brosiectau ymchwil cydweithredol gyda nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Rossi Setchi o'r Ysgol Peirianneg: "Mae gweithrediad ASTUTE 2020 yn fodd o droi ymchwil academaidd o'r radd flaenaf yn effeithiau fydd yn ehangu ac yn cynnal gweithgynhyrchu gwerth uchel mewn meysydd allweddol yng Nghymru."

Mae'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn wynebu sawl her amrywiol, gan gynnwys: defnydd cynyddol o roboteg ac awtomeiddio; defnyddio uwch-ddeunyddiau; ysgogi rhyngrwyd y pethau a diwydiant 4.0; ymgorffori technolegau arloesol newydd mewn prosesau gweithgynhyrchu clyfar; a chreu cadwyni cyflenwi cryf.

Dyma rai o'r meysydd allweddol y bydd yr arbenigwyr sy'n cefnogi ASTUTE 2020 yn mynd i'r afael â nhw.

Wrth lansio'r gweithrediad £14m, dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford AC: "Dyma enghraifft arall o bwysigrwydd cronfeydd yr UE i'n heconomi. Ein blaenoriaeth yw cael y fargen orau i Gymru yn y trafodaethau sydd ar y gweill ynghylch sut bydd y DU yn ymadael â'r UE. Mae hyn yn cynnwys diogelu'r holl arian sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd."

Ychwanegodd Paul Davies, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Cymru sy'n dod â chwmnïau ac arbenigedd ynghyd yn y sectorau gweithgynhyrchu allweddol gan gynnwys ym meysydd modurol, awyrofod ac electroneg: "Rydym yn croesawu'r fenter bwysig hon i helpu cwmnïau gweithgynhyrchu yng ngogledd a gorllewin Cymru a chymoedd y de."