Ewch i’r prif gynnwys

Paratoi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr blaenllaw'r gwyddorau cymdeithasol

11 Awst 2016

Postgraduates

Mae Caerdydd wedi'i henwi fel y partner arweiniol ar gyfer un o'r 14 o Bartneriaethau Hyfforddiant Doethurol newydd (DTPs) a gyhoeddwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Mae'r 14 o Bartneriaethau, ynghyd â dwy Ganolfan ar gyfer Hyfforddiant Doethurol (CDTs), yn ffurfio Rhwydwaith Hyfforddiant Doethurol newydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sy'n ehangu mynediad ôl-raddedigion yn sylweddol i arian gan y Cyngor Ymchwil yn y DU.

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn gydweithrediad rhwng Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth, gyda dau lwybr sy'n ymgorffori darpariaeth benodol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Swydd Gaerloyw, yn y drefn honno.  O Hydref 2017 ymlaen, bydd yn cefnogi chwe charfan flynyddol newydd o fyfyrwyr doethurol ar draws y gwyddorau cymdeithasol, gyda'r mwyafrif o'r llwybrau achrededig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Mae'n disodli Canolfan Hyfforddiant Doethurol bresennol y Brifysgol.

Bydd myfyrwyr yng Nghaerdydd, ac yn lleoliadau eraill y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol, yn elwa ar gael fynediad at hyfforddiant o'r radd flaenaf yn y gwyddorau cymdeithasol, gan roi'r sgiliau, y chwilfrydedd a'r creadigrwydd sydd eu hangen ar y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i fod yn arloesol.

Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddarparu sgiliau megis:

  • gweithio mewn timau rhyngddisgyblaethol
  • cyfathrebu syniadau ymchwil a chanfyddiadau yn glir
  • cydweithio â phartneriaid rhyngwladol
  • gallu ymgymryd â gwaith dadansoddi o safon uchel
  • ymdrin â gwahanol fathau o ddata
  • cydweithio â sefydliadau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Dywedodd yr Athro David James, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd: "Mae llwyddiant ein cais consortiwm ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn ein galluogi i hyfforddi cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr o'r radd flaenaf ar draws bron pob un o'r gwyddorau cymdeithasol. Gwnaeth ein cynnig gryn argraff ar adolygwyr cymheiriaid, o ran sut mae'n adeiladu ar y gwaith y mae ein Canolfan Hyfforddiant Doethurol presennol wedi'i wneud eisoes, gan gynnwys ein llwyddiannau wrth gynhyrchu trefniadau cydweithredol dilys gyda phartneriaid anacademaidd ar gyfer nifer o ysgoloriaethau ymchwil.

"Mae'r Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol newydd yn ein galluogi ni i gynnig sawl llwybr rhyngddisgyblaethol newydd mewn meysydd megis Gwyddor Data, Iechyd a Lles, ac Economi Digidol a Chymdeithas."