Ewch i’r prif gynnwys

A fydd Cymru ar ei hennill o ganlyniad i ddatganoli treth?

05 Awst 2016

Wales

Heddiw (dydd Gwener, 5 Awst), bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal trafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru am yr heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil datganoli treth i Gymru.

Yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd fydd yn cadeirio’r sesiwn, a cheir cyflwyniad gan yr ymchwilydd Guto Ifan fydd yn amlinellu’r pwerau trethi sydd ar fin cael eu datganoli a sut bydd y rhain yn newid sut yr ariennir Cymru.

Bydd y cyflwyniad yn trin a thrafod rhai o’r problemau a’r peryglon posibl sy’n wynebu cyllideb Cymru. Bydd yn ystyried rhai o’r materion a’r pynciau llosg cyn y trafodaethau hollbwysig a gynhelir yn yr hydref ynghylch y ‘fframwaith ariannol’ rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EM.

Bydd hefyd yn trafod datblygiadau fel y penderfyniad i adael yr UE, a sut y gallai unrhyw newidiadau cyfansoddiadol dilynol effeithio ar ddatganoli treth i Gymru.

Meddai’r Athro Richard Wyn Jones: "O gofio sut bydd yr esgid fach yn gwasgu ar wariant cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn ‘Brexit’, mae sicrhau chwarae teg wrth ddatganoli treth i Gymru yn bwysicach nag erioed.

"Mae gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos maint yr her a wynebwn. Mae'n hanfodol bod gwleidyddion a'r cyhoedd yng Nghymru yn cymryd camau nawr er mwyn sicrhau na fyddwn ar ein colled."

Ychwanegodd Guto Ifan, sydd hefyd o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: "Bydd datganoli treth yn cael effaith enfawr ar arian cyhoeddus Cymru, a gallai fywiogi gwleidyddiaeth ac economi Cymru.

"Fodd bynnag, bydd yr effaith a gaiff datganoli treth ar gyllideb Cymru yn dibynnu yn y pen draw ar sut bydd Grant Bloc Cymru’n cael ei addasu.

"Mae’n bosibl bod cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol. Gallai cyflwyno system o ddatganoli treth sy’n anfanteisiol i Gymru, beri goblygiadau sylweddol o ran sut caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu."

Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener, 5 Awst rhwng hanner dydd ac 1 o’r gloch ym Mhabell y Cymdeithasau 1.