Ewch i’r prif gynnwys

Dementias Platform UK

4 Awst 2016

Julie Williams
Professor Julie Williams

Mae’r Athro Julie Williams wedi’i phenodi’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Dementias Platform UK (DPUK).

Mae'r Athro Williams wedi bod yn aelod o dîm gweithredol DPUK ers mis Medi 2015. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar amlygu a deall y genynnau sy'n cynyddu'r perygl o ddatblygu anhwylderau seicolegol a niwro-ddirywiol cymhleth. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd Alzheimer, dyslecsia datblygiadol a sgitsoffrenia.

Mae DPUK wedi sefydlu rhwydwaith estynedig o wyddonwyr o'r radd flaenaf drwy greu rhwydweithiau a grwpiau strategaeth. Mae'r Athro Williams wedi arwain y gwaith o ddatblygu cronfa ddata geneteg yn rhan o'r Rhwydwaith Gwybodeg a gaiff ei lansio yn yr hydref.

Meddai Cyfarwyddwr DPUK, yr Athro Gallacher: “Rwyf wrth fy modd bod yr Athro Williams wedi ymuno â'r Tîm Gweithredol. Bydd ei harbenigedd amlwg mewn geneteg dementia, yn ogystal â'i phrofiad llywodraethol, yn gaffaeliad aruthrol wrth i ni dyfu a datblygu ein gweithgareddau.”

Mae tîm ym Mhrifysgol Caerdydd, o dan arweiniad yr Athro Williams, yn ceisio datblygu dull dosbarthu peryglon ar sail haenau ar gyfer clefyd Alzheimer (AD), clefyd Parkinson (PD), clefyd niwronau motor a mathau eraill o ddementia.

Mae'r Athro Williams yn olynu'r Athro Carol Brayne o Brifysgol Caergrawnt, sy'n arwain gwaith ymgysylltu Carfannau'r DU drwy Fforwm y Prif Ymchwilwyr. Mae hefyd yn cynnal trafodaethau gydag arbenigwyr rhyngwladol er mwyn datblygu Cynnig Rhoi'r Ymennydd ymhlith Carfannau'r DU.