Ewch i’r prif gynnwys

Fformat newydd ar gyfer papur newydd digidol yr Eisteddfod

28 Gorffennaf 2016

Llais y Maes

Mae Llais y Maes, papur newydd digidol dwyieithog sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Caerdydd yn rhoi sylw i Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn dychwelyd eleni gyda fformat newydd cyffrous.

Yn y gorffennol mae Llais y Maes wedi cael ei redeg gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn unig, ond eleni bydd myfyrwyr yn ymuno gyda dysgwyr o PeoplePlus Cymru, darparwr dysgu sy’n seiliedig ar waith sy’n cyflwyno swyddi dan hyfforddant a phrentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.

Eleni, y gobaith yw y bydd dwyn myfyrwyr a dysgwyr eraill ynghyd yn helpu i greu persbectif ffres ar draddodiad Eisteddfodau sydd yn mynd yn ôl canrifoedd, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc sy’n chwilio am waith.

Mae Llais y Maes, a sefydlwyd gan Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn 2013, yn hyfforddi myfyrwyr mewn sgiliau newyddiadurol allweddol fel creu cynnwys newyddion, ysgrifennu, golygu fideo a chasglu newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae myfyrwyr wedi cynnig safbwynt gwahanol ar yr ŵyl ac wedi datgelu straeon unigryw sydd wedi cyrraedd atodlenni BBC Cymru, S4c ac ITV.

Dywed Shelley Bird, Hyrwyddwr Cymunedol yn PeoplePlusCymru: “Rydym yn gyffrous iawn fod ein dysgwyr yn cyd-weithio gyda myfyrwyr Prifysgol Cymru a’r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol ar Llais y Maes. Mae hwn yn gyfle gwych i’n dysgwyr gael profiad o fod yn rhan o rwydwaith o newyddiadurwyr digidol sy’n gweithio'n ddwyieithog yn yr ŵyl.  Bydd ein dysgwyr yn meithrin ystod o sgiliau technegol a chymdeithasol y gallant eu defnyddio i helpu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd o ddewis yn y dyfodol.”

Mae cyn-fyfyrwyr Llais y Maes wedi mynd ymlaen i weithio mewn sefydliadau fel S4C a BBC Cymru, gyda chymorth y sgiliau maen nhw wedi eu mireinio ar gaeau’r Eisteddfod. Bu i Sophie Gardner-Roberts, sy’n dod o Ffrainc ac nad oedd wedi bod mewn Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen, gymryd rhan yn Llais y Maes 2015 ac ers hynny mae wedi ennill ei swydd ddelfrydol fel cynorthwyydd golygyddol yn Archant, gan weithio ar draws ei bortffolio o gylchgronau Ffrengig.

Dywedodd Sophie: “Roedd Llais y Maes yn un o’r profiadau gorau a gefais yn ystod fy nghwrs meistr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd gweithio ar bapur newydd digidol yn brofiad hanfodol i mi gan fod newyddion digidol a dweud stori ar-lein yn dod yn fwyfwy pwysig yn ein maes ac rwyf eisoes yn defnyddio beth ddysgais yno yn fy swydd bresennol. Diolch!”

Bydd Rheolwr Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd, Emma Meese (cyn uwch-gynhyrchydd yn y BBC), a darlithydd newyddiaduraeth yn y Gymraeg, Sian Morgan Lloyd (cyn newyddiadurwr ITV a dirprwy olygydd Y Byd ar Bedwar), yn rheoli'r gwasanaeth newyddion, gan ddarparu hyfforddiant newyddiadurol o’r safon uchaf i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae Sian bellach yn rhedeg y ddarpariaeth Gymraeg yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol, ac eleni mae’r myfyrwyr sy’n astudio newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan greiddiol o dîm Llais y Maes. Mae myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sydd wedi cymryd rhan yn Llais y Maes hefyd wedi dewis manteisio ar ddarpariaeth iaith Gymraeg newydd Prifysgol Caerdydd ar gyfer astudiaethau newyddiaduraeth o ganlyniad uniongyrchol i’w profiad.

Interviewing

Dywed Emma Meese: "Rydym yn falch iawn o ddod â Llais y Maes yn ôl gyda fformat newydd sbon, a gobeithiwn y bydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a dysgwyr PeoplePlus Cymru yn elwa'n fawr oddi wrth ei gilydd ac yn datblygu sgiliau newydd i helpu eu gyrfaoedd ymhellach. Bob blwyddyn mae ein tîm Llais y Maes wedi achub y blaen ar bapurau eraill ac wedi cyfweld â ffigurau nodedig ym mywyd Cymru - o gyflwynydd One Show y BBC Alex Jones i’r Prif Weinidog Carwyn Jones - ac ni allwn aros i weld beth fyddan nhw’n ei gynnig i ni eleni.”

Ers cael ei sefydlu yn 2013, mae Llais y Maes wedi gadael gwaddol yn y cymunedau sydd wedi cynnal pob Eisteddfod Genedlaethol, gan ysbrydoli gwasanaethau newyddion cymunedol newydd fel Pobl Dinefwr, a sefydlwyd yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn yr ŵyl yn 2014. Erbyn hyn y gobaith yw y bydd grŵp cymunedol yn y Fenni yn cymryd gwaddol Llais y Maes yn yr un modd gyda gwasanaeth hyperleol newydd.

Lansiodd Prifysgol Caerdydd Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol academaidd gyntaf y DU yn 2013. Roedd yn un o Brosiectau Ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd a'i nod yw trawsnewid cymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt. Mae'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn ymchwilio i'r sector hwn sy'n ehangu ac mae'n cynnig gwybodaeth a hyfforddiant i newyddiadurwyr cymunedol, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio. Mae prosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol yn cydweithio â chymunedau ar faterion fel taclo tlodi, rhoi hwb i’r economi, a gwella iechyd, addysg a lles.