Treial sgrinio canser yr ysgyfaint
29 Gorffennaf 2016
Gallai cyflwyno sgrinio am ganser yr ysgyfaint yn y DU leihau nifer y marwolaethau’n sylweddol ymhlith grwpiau risg uchel, heb achosi’r straen diangen sydd weithiau ynghlwm wrth brofion meddygol.
Wedi’i gyhoeddi heddiw yn Thorax, edrychodd treial a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd at ganlyniadau seicolegol hirdymor sgrinio CT am ganser yr ysgyfaint, a chanfu nad yw’n achosi pryder diangen, er y gall ofn a stigma weithiau fod yn rhwystrau at sgrinio.
Canser yr ysgyfaint yw’r canser sy’n achosi’r mwyaf o farwolaethau yn y DU gan ladd bron 40,000 o bobl y flwyddyn. Hefyd, mae tua tri chwarter y cleifion yn cael diagnosis canser hwyr, pan fo llai o driniaethau ar gael. Drwy ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar, mae saith o bob deg o gleifion yn byw am flwyddyn neu fwy.
Dywedodd Dr Kate Brain o Brifysgol Caerdydd: “Gyda chyfradd goroesi canser yr ysgyfaint dros gyfnod o 5 mlynedd yn y DU yn is na nifer o wledydd eraill â systemau gofal iechyd cymharol, mae’n bwysig i ni wneud mwy i gyflwyno strategaethau canfod cynnar sy’n helpu i sicrhau bod triniaethau’n cael eu cynnig i gleifion sydd â’r clefyd ers tro.
“Weithiau, mae’r ofn o driniaethau meddygol a chanlyniadau’r rheiny yn atal pobl rhag gofyn am brofion a all achub eu bywydau. Ond mae ein treial yn dangos nad yw sgrinio CT am ganser yr ysgyfaint yn cael effaith seicolegol hirdymor negyddol ar gleifion, sy’n golygu ei fod yn fodd gwych i ganfod canser yr ysgyfaint ar gam cynnar pan fo gwell cyfle o oroesi’r clefyd.”
Recriwtiodd treial sgrinio canser yr ysgyfaint y DU (UKLS) dros 4,000 o bobl rhwng 50 a 75 oed oedd â risg uchel o gael canser yr ysgyfaint. Cafodd y grŵp ei rannu’n ddau grŵp ar hap: cafodd rhai sgriniad CT a rhai ddim. Aseswyd y ddau grŵp bythefnos i mewn i’r astudiaeth ac eto ddwy flynedd yn ddiweddarach. I asesu ymatebion emosiynol pobl i sgrinio ysgyfaint CT, defnyddiwyd mesurau safonol o ran gofid, pryder, iselder a boddhad ynghylch canser yr ysgyfaint. Dangosodd yr ymchwil nad oedd sgrinio am ganser yr ysgyfaint yn achosi pryder diangen pan gysylltwyd â phobl yn ddilynol dros y cyfnod dwy flynedd. Roedd rhywfaint yn fwy o ofid ymhlith y grŵp a gafodd sgan ailadroddus, ond nid oedd yn barhaol. Datgelodd y canlyniadau ar y ddau bwynt fod mwy o bobl o’r grŵp na chawsant sganiau’n anfodlon ar eu penderfyniad i fod yn rhan o’r treial. Canfu hefyd, yn y ddau grŵp, fod y gofid a achosir gan ganser yn waeth ymhlith merched, pobl dan 65 oed, ysmygwyr a’r rhai â phrofiad o ganser yr ysgyfaint.
Cynhaliwyd y treial yn Lerpwl a Papworth, gyda’r dadansoddiad manwl o’r data seicolegol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd. Bydd y dystiolaeth a gafwyd yn cyfrannu at benderfyniadau clinigol a pholisi ar weithredu sgrinio ysgyfaint CT dogn isel posibl yn y dyfodol yn llwyddiannus ac mewn ffordd deg i unigolion sydd â risg uchel o gael canser.
Y sefydliadau oedd yn rhan o’r astudiaeth oedd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Lerpwl, Public Health England, Ymddiriedolaeth Sefydliadau GIG Royal Brompton a Harefield, Ysbytai Athrofaol Nottingham a Phrifysgol y Frenhines Mair, Llundain.
Thorax sy’n cyhoeddi’r treial ‘Canlyniadau seicolegol hirdymor sgrinio CT dogn isel: canlyniadau treial a reolir ar hap Sgrinio Canser yr Ysgyfaint y DU’. Ariannwr: Rhaglen Asesu Technoleg Iechyd NIHR.