Canolfan Treialon Ymchwil

Ein nod yw gwella iechyd a lles cymdeithas drwy ragoriaeth gydnabyddedig mewn treialon clinigol ac astudiaethau eraill wedi’u cynllunio’n dda.
Y Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r grŵp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru. Mae'r ganolfan yn mynd i'r afael â’r clefydau mawr, a phryderon iechyd ein cyfnod ni, gan gynnwys ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau, diagnosis canser cynnar a sut i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r Ganolfan yn cyflawni hyn drwy ffurfio partneriaethau gydag ymchwilwyr, a thrwy adeiladu cysylltiadau parhaus gyda'r cyhoedd, y mae eu cyfranogiad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yr astudiaethau.
Mae'r Ganolfan yn cynnwys tair uned treialon clinigol sydd wedi’u cofrestru gyda’r UKCRC a’i Gwasanaeth Cynllunio a Gweithredu Ymchwil yn y De-ddwyrain.
Themâu ymchwil
Mae gan y Ganolfan Treialon Ymchwil bedwar thema ymchwil craidd:
Mae’r Ganolfan yn parhau i ddatblygu treialon ar gyfer dyfeisiau meddygol ac mae’n sefydlu portffolio o ymchwil ar ddulliau ystadegol a’r person hŷn.
Mae’r Ganolfan ar gyfer Treialon Ymchwil yn cael ei hariannu’n gyhoeddus i alluogi ymchwil cymwysedig sy'n llywio polisi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn y DU, ac mae ar hyn o bryd yn rhedeg astudiaethau ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Ariennir y Ganolfan drwy Lywodraeth Cymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Ymchwil Canser y DU.
Cysylltwch â ni
Mae'r Ganolfan yn barod i ystyried unrhyw astudiaeth neu syniad am dreial sydd wedi’u cynllunio'n dda, hyd yn oed rhai sydd y tu hwnt i’w meysydd ymchwil presennol. I gael rhagor o wybodaeth am gydweithio gyda'r tîm, cysylltwch:
Canolfan Treialon Ymchwil
Ceisiadau Mynediad at Ddata Ymchwil
Nod y Ganolfan yw sicrhau fod ei data ymchwil ar gael lle bynnag bo’n bosibl, yn amodol ar gymeradwyaeth rheoleiddio, unrhyw delerau ac amodau a osodwyd arnom ni gan ddarparwyr allanol, cyfrinachedd cleifion a’r holl gyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu gwybodaeth bersonol.
Fel arfer mae data ar gael yn rhydd, ond disgwylir i dderbynwyr gydnabod y crewyr gwreiddiol mewn unrhyw ddefnydd cyhoeddus o’r data neu wrth gyhoeddi canlyniadau ymchwil yn seiliedig yn rhannol neu’n llwyr ar y data - bydd gofyn i unrhyw un sy’n gwneud cais am fynediad at ddata gytuno gyda thelerau’r drwydded Creative Commons 4.0.
Gallem ofyn i’r sawl sy’n gwneud y cais i dalu cost rhesymol am baratoi a darparu’r data (er enghraifft storio ffisegol a phostio, lle mae maint y set data yn ei gwneud yn anymarferol i ddarparu data drwy ffyrdd electronig).
Dylid e-bostio ceisiadau ar gyfer mynediad at ddata’r Ganolfan i opendata@caerdydd.ac.uk i’w asesu, gan roi manylion digonol i nodi’r set ddata yr ydych chi’n ei geisio yn unigryw a manylion cyswllt priodol ar gyfer y sawl sy’n gwneud cais.
Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.