Cefnogi newyddiadurwyr y dyfodol
21 Gorffennaf 2016
Mae Ysgoloriaeth Sue Lloyd Roberts – a luniwyd i gefnogi hyfforddiant newyddiadurwyr ifanc yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd - wedi cael rhodd o £50,000 gan Google.
Dros bum mlynedd, bydd y rhodd yn gwneud cyfraniad sylweddol i gronfa’r Ysgoloriaeth, a lansiwyd gan ffrindiau a theulu Sue Lloyd Roberts – a fu’n newyddiadurwr i’r BBC ac i ITN - yn dilyn ei marwolaeth y llynedd. Bydd yn cynnal ffioedd un myfyriwr y flwyddyn a fydd yn cael ei hyfforddi ym mhrif ysgol newyddiaduraeth y Deyrnas Unedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhaid i’r rhai sy'n derbyn yr ysgoloriaeth ddangos ymrwymiad i’r mathau o faterion y byddai Sue Lloyd Roberts yn adrodd amdanynt – gan gynnwys hawliau dynol, materion rhyngwladol a'r amgylchedd.
Meddai Peter Barron, Is-Lywydd Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Google: "Roedd Sue yn newyddiadurwr ysbrydoledig a fu’n arloesi ym maes casglu newyddion digidol ac yn hybu’r syniad y dylai pawb gael llais. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r ysgoloriaeth hon i hyrwyddo’r gwerthoedd hynny drwy’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr newyddiaduraeth."
Dywedodd yr Athro Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, Richard Sambrook: “Rydym yn llawenhau y bydd y gronfa a sefydlwyd gan deulu a ffrindiau niferus Sue yn etifeddiaeth i’w gwaith eithriadol a'i hymrwymiad i gyfiawnder a chydraddoldeb ledled y byd. Mae Prifysgol Caerdydd mor falch o gychwyn partneriaeth â Google drwy eu cyfraniad hael i gronfa’r ysgoloriaeth, a fydd yn trawsnewid y cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau o newyddiadurwyr newydd yn y blynyddoedd i ddod."
Y cyntaf i dderbyn y wobr yw Grace Adeniji. Bydd Grace yn cymryd ei lle ar y cwrs MA Newyddiaduraeth Ddarlledu ym mis Medi. Mae hi newydd raddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Brunel.
Dywedodd Grace: "Rwy’n teimlo mor falch ac mor freintiedig mai fi yw’r cyntaf i dderbyn yr ysgoloriaeth anhygoel hon."
Mae Grace, sy’n dod o Brydain, wedi byw a gwirfoddoli yn Nigeria a Ghana, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n gweld newyddiaduraeth fel ffordd bwysig o frwydro dros hawliau dynol ac yn erbyn llygredd.
Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yw un o'r sefydliadau sy’n sgorio uchaf yn y wlad o safbwynt addysgu’r cyfryngau. Mae’r ymchwil a wneir yno yn helpu i lunio tirweddau newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu rhyngwladol.