Ewch i’r prif gynnwys

Lipid Maps am symud i’r DU

13 Gorffennaf 2016

Lipids

Mae ein dealltwriaeth o rôl lipidau yn natblygiad clefydau fel clefyd y galon a dementia, ar fin cael hwb. Mae consortiwm dan arweiniad y DU wedi cael grant o £1.3m i gynnal y gronfa ddata fwyaf yn y byd o lipidau wedi'u curadu ac adnoddau cysylltiedig.

Bydd y grant newydd, a ddyfarnwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome, yn galluogi Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Babraham, Caergrawnt; a Phrifysgol California San Diego (UCSD), i barhau â'r gwaith pwysig o amlygu a dadansoddi lipidau. Dyma'r moleciwlau y mae ein cyrff yn eu defnyddio i reoleiddio prosesau arferol megis gwaed yn ceulo, ymladd heintiau a datblygu.

Bydd prosiect LIPID MAPS, yn parhau â'r gwaith o ddatblygu cronfa ddata ac adnodd a ddechreuodd yr Athro Ed Dennis yn UCSD yn 2003. Ers hynny, mae dros 40,000 o strwythurau wedi'u casglu, ac mae wedi datblygu system newydd o ddosbarthu lipidau a ddefnyddir bellach gan ymchwilwyr lipidau ledled y byd.

Meddai'r Athro Valerie O'Donnell o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau y Brifysgol, a'r ymgeisydd arweiniol:  "Mae gennym lawer iawn i'w ddysgu o hyd am faint o lipidau unigryw sydd yn ein celloedd a sut mae'r rhain yn newid yn ystod datblygiad a chlefydau. Er mwyn gwella ein dealltwriaeth, mae'n hanfodol fod gennym adnoddau mynediad agored cydweithredol fel LIPID MAPS."

Meddai'r Athro Michael Wakelam, Cyfarwyddwr Sefydliad Babraham, Caergrawnt, a chyd-ymgeisydd y grant:  "Bydd yr adnodd hanfodol hwn yn ein helpu i ddod o hyd i grwpiau o lipidau nad ydym wedi'u gweld o'r blaen, yn ogystal â darganfod lipidau sy'n gysylltiedig â phrosesau clefydau.  Bydd Grant yr Ymddiriedolaeth Wellcome yn trawsnewid ein gwaith oherwydd bydd yn ein galluogi i ddatblygu'r adnodd a sicrhau ei fod mor ddefnyddiol â phosibl i'r gymuned academaidd fyd-eang sy'n ymchwilio i lipidau."

Yn ogystal â galluogi ymchwilwyr i ddatblygu gwaith LIPID MAPS ymhellach, bydd y grant £1.3m yn symud yr adnodd i'r DU ac yn gwarchod ei system ddosbarthu a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Y llynedd yn unig, defnyddiwyd y wefan ragorol hon gan 77,000 o bobl o bron holl wledydd y byd. Bydd yn cynnig cefnogaeth hanfodol i ganolfannau dadansoddi lipidau yn y DU a thu hwnt ac yn rhoi hwb i faes lipidomeg sy'n datblygu'n gyflym.

O 2017 ymlaen, Prifysgol Caerdydd a Sefydliad Babraham fydd cyd-leoliad yr adnodd, a chaiff ei reoli ar y cyd gan y tri sefydliad sy'n cymryd rhan.

Rhannu’r stori hon