Ewch i’r prif gynnwys

Edrych yn ôl ar y flwyddyn Brifysgol

9 Mehefin 2016

Cover of the 2015 Annual Review

Mae cyflawniadau a cherrig milltir y Brifysgol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi’u cofnodi yn yr Adolygiad Blynyddol a gyhoeddir heddiw [9 Mehefin 2016].

Mae’r Adolygiad yn trin a thrafod cynnydd yng nghyd-destun strategaeth Y Ffordd Ymlaen y Brifysgol, ac fe’i cyflwynwyd yng nghyfarfod blynyddol y Llys gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.

Mae'r canlynol ymhlith llwyddiannau nodedig 2015 y sonnir amdanynt yn yr Adolygiad:

  • Chweched wobr Pen-blwydd y Frenhines i'r Brifysgol am waith Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig.
  • Lansio pum Sefydliad Ymchwil yn y Brifysgol i ddatblygu ffyrdd o wella clefydau cronig difrifol, lleihau troseddu a chynyddu diogelwch, defnyddio 'Data Mawr' i fynd i'r afael â phroblemau’r byd go iawn, datblygu dulliau doethach o ddefnyddio dŵr, a chefnogi’r broses o ddatblygu systemau ynni clyfar.
  • Y lefel uchaf erioed o foddhad myfyrwyr yn Arolwg Blynyddol y Myfyrwyr gyda 90% o'r myfyrwyr yn dweud eu bod yn fodlon â'u profiad cyffredinol.
  • Dyfarniad o £17.3m gan Lywodraeth y DU fydd yn gosod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes technoleg lled-ddargludyddion.
  • Cytundeb hanesyddol rhwng y Brifysgol a Choleg Normal Beijing fydd yn gweld myfyrwyr y Cyd-Goleg Astudiaethau Tsieinëeg Caerdydd-Beijing newydd yn dilyn cwricwlwm Astudiaethau Iaith a Diwylliant Tsieina a ddatblygwyd ar y cyd, gan arwain at ddyfarniad israddedig deuol gan y ddwy brifysgol.
  • Prosiect Phoenix sy'n defnyddio arbenigedd y Brifysgol mewn cydweithrediad â Phrifysgol Namibia (UNAM) i ddarparu hyfforddiant anaesthesia arbenigol yn y wlad am y tro cyntaf.

Dywedodd yr Athro Riordan: “Fyddai 2015 ddim wedi gallu dechrau'n well i Brifysgol Caerdydd, yn dilyn canlyniad eithriadol Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, a'n gosododd ni yn un o’r 5 Prifysgol gorau yn y DU am ansawdd ein gwaith ymchwil. Gosododd y llwyddiant eithriadol hwn y cywair ar gyfer yr hyn a brofodd yn flwyddyn o gynnydd sylweddol a pharhaus ym mhob un o'n meysydd gweithgarwch allweddol."

Mae Llys y Brifysgol yn cwrdd bob blwyddyn i gael yr Adolygiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol y Brifysgol.

Darllen yr Adolygiad Blynyddol yn llawn yma.

Rhannu’r stori hon