Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Arloesedd Busnes

1 Mehefin 2016

Nicole Ayiomamitou

Mae prosiect sy'n helpu busnesau i ragweld y galw am eu cynhyrchion yn llwyddiannus wedi ennill gwobr am Arloesedd Busnes yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2016.

Aeth y gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd gyda'r cwmni logisteg byd-eang a danfon nwyddau Panalpina ati i ddod o hyd i'r 'fformiwla gudd' ar gyfer stocrestrau 'darbodus'.

Galluogodd y bartneriaeth arloesol rhwng y cwmni ac Ysgol Busnes Caerdydd i Panalpina ddatblygu offeryn meddalwedd rhagfynegi newydd sy'n gallu rhagweld y galw a phenderfynu ar isafswm y lefel o stocrestr sydd ei angen i fodloni cwsmeriaid.

Mae 'Symud Stocrestrau mewn Ymateb i Alw' neu D2ID wedi helpu Panalpina i ddadansoddi cadwyn gyflenwi eu cwsmeriaid a chanfod cyfleoedd i leihau'r stocrestr, rhyddhau arian parod a gwella lefelau gwasanaeth.

Ffurfiwyd y fenter arloesol drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth oedd yn galluogi Panalpina i gydweithio gydag academydd blaenllaw o Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, deiliad Cadair mewn Ymchwil Gweithrediadol a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd, "Gweithiodd y prosiect hwn yn wych, gan arwain at gynhyrchu'r hyn sydd i bob pwrpas yn becyn meddalwedd i hwyluso penderfyniadau rhagfynegi stocrestr ar ran cwsmeriaid Panalpina. Bydd yn gyfraniad pwysig i weithrediad busnesau. Mae'r prosiect wedi caniatáu i'r Brifysgol ddangos effaith ein gwaith yn y ffordd orau bosib a gweld gwybodaeth a grëwyd gan ein cyfadran yn cael ei lledaenu drwy Panalpina a'u cwsmeriaid."

Dywedodd Andrew Lahy, Pennaeth  Strategaeth Logisteg ac Arloesi Panalpina: "Nid yn unig mae'r prosiect hwn yn lleihau costau cwsmeriaid yn nhermau stocrestrau, ond mae ganddo'r potensial hefyd i gael effaith fawr o ran cynaladwyedd amgylcheddol, gan leihau darfodiad stocrestrau - sy'n lleihau'r nifer o eitemau a gaiff eu cludo ond nad ydynt yn cael eu gwerthu, neu a fyddai'n cael eu gwaredu fel arall. Hefyd, mae costau is yn y gadwyn gyflenwi'n treiddio yn y pen draw i olygu prisiau is i'r cwsmeriaid, felly mae pawb ar ei ennill."

Yn ddiweddar pennwyd fod gwaith y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn 'rhagorol' gan y Panel Graddio Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth am ei lwyddiant yn rhagori ar ei amcanion gwreiddiol.

Rhannu’r stori hon