Ewch i’r prif gynnwys

Mae academydd yn myfyrio ar flwyddyn o gryn heriau mewn trafodaethau amgylcheddol

29 Ebrill 2025

ffordd trwy goedwig

Roedd trafodaethau amgylcheddol yn 2024 yn wynebu heriau mawr yn sgil newidiadau yn yr hinsawdd, gwrthdaro cynyddol ac aflonyddwch gwleidyddolsy’n cyflymu o hyd mewn llawer o ddemocratiaethau, yn ôl adroddiad.

Golygodd Dr Jennifer Allan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd yr adroddiad, State of Global Environmental Governance 2024, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Rhyngwladol er Datblygu Cynaliadwy (IISD).

Mae'r adroddiad yn trafod rhwystredigaeth gynyddol yn dilyn y trafodaethau ar yr hinsawdd a phrosesau amgylcheddol amlochrog eraill sydd wedi bod yn araf i fynd i'r afael â heriau enbyd y byd.

Dyma a ddywedodd Dr Allan, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang: “Y llynedd, cafwyd tro sydyn i’r dde ym mhendil gwleidyddol llawer o wledydd pan gafwyd buddugoliaeth gan arweinwyr, llawer ohonyn nhw ag agendâu poblyddol. Achosodd y digwyddiadau hyn bryderon newydd ynghylch dechrau dadwneud deddfwriaeth amgylcheddol. Ar adegau, roedd yr amgylchedd fel pe bai ar goll ymhlith blaenoriaethau a oedd yn cystadlu â’i gilydd."

Jennifer Allan
Mae tensiynau geowleidyddol yn tanseilio’r gwaith o gydweithio ar yr amgylchedd. Mae ymddiriedaeth ymhlith gwledydd yn isel, ac mae’r tensiynau yn uchel. Nid yw hyn yn argoeli'n dda o ran gwireddu allbynnau byd-eang i achub y blaned. Ar hyd yr amser, mae rhyfeloedd yn pwyso o’r newydd ar ecosystemau y mae bywoliaethau yn dibynnu arnyn nhw. Mae'r holl argyfyngau hyn yn atgyfnerthu ei gilydd.
Dr Jennifer Allan Uwch Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol

Dyma'r bumed flwyddyn i Dr Allan gyd-awduro a golygu'r adroddiad. Wrth lunio’r adroddiad hwn, roedd effaith tensiynau geowleidyddol yn amlwg, meddai. “Dyma drefn enbyd, ymddengys, sy’n cyferbynnu’n llwyr â’r brys y dylem ei deimlo pan welwn y difrod, hyd yn oed o’r gofod.”

Mae'r adroddiad yn ehangu ar gasgliadau Earth Negotiations Bulletin yr IISD, sef cofnod cyhoeddus o drafodaethau byd-eang ar faterion amgylcheddol. Mae’r Bwletin yn dod ag arbenigwyr o bob cwr o'r byd ynghyd i arsylwi a llunio adroddiadau yn dilyn y trafodaethau hyn, a hynny mewn ymdrech i daflu goleuni ar fyd cymhleth, ac astrus weithiau, trafodaethau rhwng gwladwriaethau â’i gilydd.

Ers 1970, medd yr adroddiad, mae gostyngiad o 73% wedi bod mewn poblogaethau bywyd gwyllt. Yn y trosolwg cyntaf erioed o rywogaethau mudol, nodwyd bod 20% mewn perygl o ddifodiant. Mae llygredd aer yn parhau i waethygu yn ne Asia, gan effeithio ar iechyd ledled y rhanbarth. Mewn astudiaeth fyd-eang o lygredd “cemegau am byth” canfuwyd bod ein dŵr yfed yn mynd y tu hwnt i'r trothwyon rheoleiddiol yn rheolaidd, a bod gwir faint y llygredd hwn yn cael ei danamcangyfrif.

Aeth Dr Allan yn ei blaen: “Clywsom am yr ‘argyfwng crinrwydd’ (aridity crisis)—mae ein planed las yn troi’n frown. Mae llawer o'r crinrwydd hwn yn barhaol oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd ac mae eisoes yn costio $307bn y flwyddyn yn fyd-eang. Y llynedd oedd y flwyddyn gynhesaf (unwaith eto) a gofnodwyd erioed a'r gyntaf i gyrraedd 1.5°C, sef ffin isaf Cytundeb Paris o ran y tymheredd yn codi. Rydyn ni wedi clywed gan y gwyddonwyr a’r gwyddonwyr cymdeithasol gorau ym maes yr hinsawdd sy'n 'anobeithio' ac yn 'arswydo.'

“Ond yn 2024 gwelson ni hefyd fod adfer yn bosibl. Mae’r gostyngiad yn allyriadau economïau datblygedig, yn enwedig yr UE, yn rhoi rhyw lygedyn o obaith hefyd fod modd i economïau cryf fod yn wyrdd. Mae'r twll yn haen yr oson yn crebachu o hyd, gan ddangos gallu ein planed i wella. Diolch i brosiect adfer tir mwyaf y byd, mae'r Sahel yn troi'n wyrdd. Rhoddodd Sefydliad y Barriff Mawr (Great Barrier Reef Foundation) wybod bod arwyddion cadarnhaol o aileni yn dilyn ei brosiect “coral IVF”. Roedd lyncs Iberia ar fin mynd i ebargofiant ond mae bellach wedi adfer.

“Yn 2025, gadewch inni obeithio y bydd ein chwilfrydedd a’n hawydd i arloesi yn canfod ei ffordd drwy’r amlargyfwng hwn.”

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Rhannu’r stori hon

Mae ein natur ryngddisgyblaethol yn ehangu ein hamgylchedd ymchwil ac yn galluogi ein staff a myfyrwyr i gydweithio’n helaeth.