Ewch i’r prif gynnwys

Cerddor a enillodd wobr Grammy yn arwain gweithdy ysgrifennu cerddoriaeth i fyfyrwyr

28 Ebrill 2025

White female with mid-length wavy hair sat on stage holding a micrphone talking to a mixed audience of students
Canwr a chyfansoddwr Amy Wadge

Fe wnaeth Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd groesawu'r canwr a chyfansoddwr Amy Wadge i arwain gweithdy ysgrifennu cerddoriaeth i fyfyrwyr ddydd Mawrth 8 Ebrill 2025.

Un o'r cyfansoddwyr mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd yn y DU yw Amy, a enillodd wobr Grammy Cân y Flwyddyn ar y cyd ag Ed Sheeran yn 2016 . Yn ogystal â'i halbymau poblogaidd, mae hi wedi ysgrifennu caneuon gydag artistiaid megis Kylie Minogue, James Blunt, Camila Cabello a John Legend. Yn 2022, cyd-ysgrifennodd Amy gân y DU ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision, Space Man. Aeth Space Man, a berfformiwyd gan Sam Ryder,ymlaen i gyflawni'r canlyniad gorau i'r DU mewn bron i ddau ddegawd, gan orffen yn ail.

Cafodd myfyrwyr eu hannog i gyflwyno caneuon i’w hystyried cyn y gweithdy gyda chwe chân (gan saith cyfansoddwr) yn cael eu dewis i'w cyflwyno naill ai mewn perfformiad byw neu mewn fformat wedi'i recordio. Y cyfansoddwyr a'r caneuon a ddewiswyd oedd:

  • Harry McInroy yn cyflwyno Orbit
  • Evie Loose yn cyflwyno Summer/Autumn
  • Katerina Li yn cyflwyno Dream in Spotlight
  • Tia Halliwell a Lucas Palenek yn cyflwyno Separate Ways
  • Lily Edmondson yn cyflwyno Pools of Green
  • Dahlia Binti yn cyflwyno We'll Be Alright

Dechreuodd Amy’r gweithdy drwy drafod dechrau ei gyrfa yn artist recordio ac yna yn gyfansoddwr cyn i'r myfyrwyr ddod ar y llwyfan yn eu tro a chyflwyno eu caneuon. Ar ôl i'r gân gael ei chwarae, rhoddodd Amy ei hadborth cyn cloi'r gweithdy â sesiwn holi ac ateb. Roedd llawer o gwestiynau yn canolbwyntio ar y berthynas gydweithredol rhwng cyfansoddwyr ac artistiaid.

Dywedodd Dr Charles Wilson, Cyfarwyddwr Datblygiad Proffesiynol Myfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth: “Mae cael cyfansoddwr cerddoriaeth rhyngwladol blaenllaw, sydd wedi cydweithio â'r gorau yn y busnes, yn rhoi ei hadborth arbenigol ar eich gwaith yn fraint na fydd unrhyw un o'r myfyrwyr dan sylw yn ei hanghofio.

“Roedd Amy yn rhoi'r un gofal a sylw i bob cân, gan ddangos sut gallai'r newid lleiaf i alaw neu gytgan neu'r addasiad symlaf i’r strwythur helpu i'w gwneud yn gân lwyddiannus.”

Dywedodd Evie Loose, myfyriwr Cerddoriaeth a Llenyddiaeth Saesneg: “A minnau’n dymuno bod yn gyfansoddwr, mae cael rhywun fel Amy Wadge, meistr ar ei chrefft, yn rhoi o’i hamser a rhannu ei doethineb gyda ni wedi bod yn gyfle anhygoel. Mae'n ein hatgoffa bod gwerth yn ein gwaith yn gerddorion a bod ein dyfodol yn werth buddsoddi ynddo.”

Pan ddaeth y gweithdy i ben, dywedodd Amy ei bod hi wedi bod yn “anrhydedd” clywed y gerddoriaeth a gyflwynwyd yn ystod y sesiwn. Dywedodd hefyd: “Mae cymaint o dalent yng Nghymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig i feithrin y dalent honno trwy roi cyngor ac arweiniad i bobl ifanc greadigol cyn iddyn nhw ddechrau gyrfa ym maes cerddoriaeth.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.