'Game of Codes' yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed yng Nghaerdydd
15 Ebrill 2025

Mae Game of Codes yn gystadleuaeth codio ar gyfer plant ysgol gynradd sy’n cael ei drefnu gan Technocamps.
Prifysgol Caerdydd oedd yn cynnal y rowndiau terfynol yn Abacws i ddathlu pen blwydd y gystadleuaeth yn 10 oed. Roedd cystadleuwyr ledled Cymru wedi cymryd rhan.
Mae Technocamps yn rhaglen sy’n helpu i ddatblygu sgiliau digidol yng Nghymru ac annog pobl ifanc i ymgysylltu â phynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Eleni roedd y gystadleuaeth Rhaglennu genedlaethol Games of Codes Cymru gyfan yn gwahodd disgyblion i greu meddalwedd gan ganolbwyntio ar ddefnyddio ‘Superheroes of Science’.
Roedd y cystadleuwyr yn gallu dewis cystadlu mewn tîm neu yn unigol ac wedi dod o ysgolion ar draws Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Maesteg, Conwy a Bro Morgannwg.
Y cyfarwyddiadau oedd dylunio meddalwedd gwreiddiol mewn unrhyw iaith codio, gall hyn fod yn gêm, gwefan, ap, cwis, neu animeiddiad.
‘’Roedd dewis yr enillydd yn arbennig o heriol, ces i fy synnu gan safon yr ymgeiswyr.’’
Nod y gystadleuaeth hon yw rhoi’r cyfle i ddisgyblion sydd â diddordeb i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu, a gweithio mewn tîm wrth wella eu gwybodaeth o raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd hwyliog ac arloesol.
Ar y diwrnod, bu’r sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn arddangos eu gwaith i feirniaid sy’n westai arbennig yn Abacws, gyda’r ymgeiswyr gorau yn ennill gwobrau mewn seremoni wobrwyo.
Dyma’r enillwyr:
Y Tîm Gorau – Fusis (Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Yr Unigolyn Gorau – Boris Smatko (Ysgol Gynradd Penllergaer)
Dewis y Bobl – Cyber Sparks (Ysgol Stanwell)
Dewis y Barnwr – Codwyr Uchelgeisiol Ifanc (Ysgol Porth Y Felin)
Canmoliaeth Uchel - Explosive Kids (Ysgol Stanwell) Ollie Prime (St Mary’s Brymbo)