Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r tîm allgymorth Cyfrifiadureg wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau STEM Cymru 2024

2 Hydref 2024

Mae Tîm Allgymorth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ar restr fer y rownd derfynol yng Ngwobrau STEM Cymru 2024.

Mae’r Tîm Allgymorth wedi’i gydnabod oherwydd ei ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i’r agenda ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru.

Mae’r tîm wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori – Tîm STEM y Flwyddyn a Rhaglen Addysgol y Flwyddyn.

Mae’r Tîm Allgymorth yn cynnwys tîm o staff o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a Llysgenhadon STEM sy’n fyfyrwyr. Ei nod yw hyrwyddo sgiliau digidol a gyrfaoedd digidol i bobl ifanc yn Ne Cymru drwy ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i gyflwyno gweithdai i ddisgyblion ar godio ac elfennau pwysig eraill o gyfrifiadureg.

Mae hefyd yn cefnogi’r brifysgol ehangach yn ei rôl fel hwb Technocamps, sef rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig sesiynau allgymorth cyfrifiadurol i bobl ifanc ledled Cymru.

Nod Gwobrau STEM Cymru 2024 yw tynnu sylw at y rheiny sy’n arwain y sector yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n cael effaith ar economi Cymru, y rhai sy’n mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau ym maes STEM, a’r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.

Mae cyfanswm o 40 o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer mewn 14 categori, a bydd pob un ohonyn nhw’n cael eu hystyried gan banel o feirniaid arbenigol o bob rhan o’r sector STEM.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo a gynhelir yng Nghaerdydd ar 17 Hydref.

Dywedodd Liz Brookes, cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru: “Cawson ni ein syfrdanu’n llwyr gan lefel y dalent, yr arloesedd a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan y sefydliadau a’r unigolion a gymerodd ran yn y gwobrau eleni. Mae safon eithriadol y ceisiadau’n adlewyrchu’r cynnydd cryf sy'n cael ei wneud wrth symud yr agenda STEM yn ei blaen ledled Cymru yn glir. Rydyn ni’n edrych ymlaen i ddathlu ac arddangos y gwaith syfrdanol sy'n cael ei gyflawni ledled y wlad yn ein noson wobrwyo ym mis Hydref."

Rhannu’r stori hon