Mwy na 10,000 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn hacathon seiberddiogelwch
20 Awst 2024

Mae’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch wedi profi eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn erbyn cyfres o heriau ar-lein, a hynny mewn cystadleuaeth ryngwladol llawn perygl.
Nod Great AppSec Hackathon 2024, dan arweiniad Cyngor Diogelwch Data India yn rhan o bartneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a Chanolfan Astudiaethau Strategol yr Hag, oedd codi ymwybyddiaeth o fygythiadau diogelwch, meithrin sgiliau, darparu cyfleoedd gwaith, a chryfhau capasiti seiberddiogelwch yn rhyngwladol.
Cymerodd fwy na 10,000 o fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd ran yn y digwyddiad byd-eang, a gafodd ei gynnal dros ddwy rownd – prawf cwestiynau amlddewis ac yna her 24 awr i ‘gipio’r faner’.
Roedd y gystadleuaeth, a gafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2021, yn cynnig cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan feithrin sgiliau ac ymwybyddiaeth o ddiogelwch apiau mewn amgylchedd tebyg i chwarae gêm o dan reolau a chanllawiau llym.
Dywedodd Dr Amir Javed, darlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd a arweiniodd gwaith y Brifysgol o noddi’r hacathon: “Mae diogelwch apiau yn faes hollbwysig i ddatblygwyr ac arbenigwyr seilwaith fel ei gilydd.
“Rydyn ni’n gwybod er enghraifft bod cyfradd fethiant uchel – hyd at 55% – mewn apiau i ddyfeisiau symudol oherwydd nad yw diogelwch yn cael ei oruchwylio’n ddigonol, ac hefyd mae risgiau sylweddol o ran tor ddiogelwch ar gyfer apiau i’r we – 70% – mewn sectorau megis manwerthu.”

Mae cymryd rhan yn Great AppSec Hackathon 2024 wedi rhoi cipolwg i gyfranogwyr ar y maes sylfaenol hwn o seiberddiogelwch mewn ffordd ddiogel ac, wrth gwrs, cystadleuol, gan roi hwb pellach i’w setiau sgiliau unigol a’r rhagolygon ar gyfer eu gyrfaoedd ar hyd y ffordd.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan arddangos eu doniau i bartneriaid y diwydiant, sef Securein, JPMC, TCPWave a Telangana State Cybersecurity Bureau a fydd yn defnyddio'r digwyddiad i ddod o hyd i interniaid.
Cafodd cyfres o weminarau dan arweiniad arbenigwyr hefyd eu cynnal yn rhan o'r digwyddiad.
Ychwanegodd yr Athro Omer Rana, hefyd o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: “Dechreuodd ein cefnogaeth i’r hacathon i gyd gyda grant sbarduno o £5,000 gan Gymru Fyd-eang a llawer o frwdfrydedd yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn rhyngwladol yn Hyderabad yn nhalaith Telengana yn India.”

Mae’n wych gweld y cydweithio hwn yn cyrraedd ei anterth gyda Great AppSec Hackathon 2024, lle roedd mwy na 10,000 o fyfyrwyr yn cystadlu yn erbyn heriau seiber anodd wrth feithrin y sgiliau i ddatblygu technoleg ac arferion diogelwch ledled India a’r byd.
Cafodd seremoni wobrwyo ei chynnal ddydd Sadwrn 17 Awst 2024 yn cynnwys gwobrau ac interniaethau ar gyfer y cyfranogwyr buddugol.