Ewch i’r prif gynnwys

Azithromycin ac atal clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar

26 Ebrill 2024

Premature baby in incubator

Dydy defnydd cynnar azithromycin ddim yn atal datblygiad clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae'r treial clinig mwyaf ar gyfer azithromycin a chlefydau'r ysgyfaint cronig mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar wedi rhoi atebion pendant i weld a all azithromycin leihau cyfraddau clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar.

Dywedodd yr Athro Sailesh Kotecha o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae clefyd cronig yr ysgyfaint, sy’n cael ei adnabod hefyd fel dysplasia bronchopulmonaidd, yn glefyd cyffredin ymhlith babanod sy’n cael eu geni’n gynnar. Mae'r clefyd yr ysgyfaint hwn mewn babanod newydd yn gysylltiedig â marwolaethau sylweddol ac afiachedd gydol oes, gan gynnwys datblygiad cynamserol posibl clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.

Er gwaethaf datblygiadau ym maes gofal babanod newydd-anedig, dydy cyfraddau clefyd cronig yr ysgyfaint ddim wedi newid i raddau helaeth. Mae’r clefyd i’w gael yn bennaf mewn babanod wedi’u geni cyn y tymor ar lai na 30 wythnos o feichiogrwydd.
Yr Athro Sailesh Kotecha Clinical Professor, School of Medicine

"Mae dadlau wedi bod ers sawl degawd ynghylch a all y gwrthfiotigau a elwir yn macrolides - sy'n cynnwys azithromycin - leihau cyfraddau clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar.

"Mae nifer o dreialon llawer llai wedi ceisio darganfod a fyddai gwrthfiotigau megis azithromycin yn ddefnyddiol wrth leihau cyfraddau clefyd cronig yr ysgyfaint, ac mae'r treialon hyn wedi dangos canlyniadau sy'n mynd yn groes i’w gilydd. Roedden ni eisiau dangos yn bendant a all azithromycin leihau clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar."

Yn rhan o’r treial roedd 796 o fabanod a gafodd eu geni’n gynnar o 28 o unedau gofal dwys babanod newydd-anedig ledled y DU. Prosiect ar y cyd oedd hwn rhwng Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, Uned Ymchwil Treialon Clinigol Prifysgol Caerdydd yn ogystal â Phrifysgol Caerlŷr, Coleg Imperial Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Llundain, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Newcastle.

Mae'r treial ymchwil wedi canfod efallai na fydd un ymyrraeth yn unig yn effeithiol, a'i bod yn bwysig asesu effaith hirdymor azithromycin ar ddatblygiad anadlol a niwrolegol, yn arbennig er mwyn asesu ei effeithiolrwydd a’i ddiogelwch yn y tymor hwy.

Nid yn unig y mae'n bwysig i ni ddeall y dulliau gorau o leihau clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar, ond mewn byd lle rydyn ni’n brwydro yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau, mae'n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio yn yr achosion meddygol presennol.
Yr Athro Sailesh Kotecha Clinical Professor, School of Medicine

“Roedd ein hastudiaeth wedi canfod nad oedd azithromycin yn atal datblygiad clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod a gafodd eu geni’n gynnar, a bod angen bod yn ofalus wrth ddefnyddio azithromycin yn yr uned babanod newydd-anedig gan nad yw'n ymddangos ei fod yn lleihau cyfraddau clefyd cronig yr ysgyfaint. Bydd yr wybodaeth newydd a phendant hon yn helpu i leihau opsiynau trin clefyd cronig yr ysgyfaint mewn babanod sy’n cael eu geni’n gynnar, ac yn atal y defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn lleoliadau clinigol," ychwanegodd yr Athro Kotecha.

Mae'r papur, Azithromycin therapy for prevention of chronic lung disease of prematurity (AZTEC): a multicentre, double-blind, randomised, placebo-controlled trial, wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Lancet Respiratory Medicine.

Rhannu’r stori hon