Ewch i’r prif gynnwys

Prif Swyddog Gweithredol DSV Solutions yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd i adeiladu ar bartneriaeth strategol

1 Mai 2024

The visitors from DSV

Ymwelodd Prif Swyddog Gweithredol newydd DSV Solutions, Albert-Derk Bruin, ynghyd â chydweithwyr allweddol, â Phrifysgol Caerdydd yn ddiweddar i gryfhau cysylltiadau ac archwilio cyfleoedd cydweithredol.

Llofnododd DSV, cyflenwr trafnidiaeth a logisteg byd-eang o Ddenmarc, bartneriaeth strategol gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2023 i hwyluso cydweithrediad agosach o ran arloesi, ymchwil, datblygu staff, dyfodol myfyrwyr, a datblygu busnes rhyngwladol.

Mae’r bartneriaeth strategol yn ehangu’r perthnasoedd cydnerth a grëwyd gan Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae’n gam arall ar y daith y mae’r ddau sefydliad wedi’i throedio gyda’i gilydd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Nid yn unig yw hyn yn creu perthynas hirdymor, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd i archwilio pum maes allweddol:

  • Cadwyni Cyflenwi Byd-eang yn y Dyfodol
  • Cynaliadwyedd, yr Economi Gylchol a Gwyrdd
  • Data a Deallusrwydd Artiffisial
  • Logisteg Gweithgynhyrchu ac Ail-weithgynhyrchu Uwch
  • Talent, Hyfforddiant a Datblygu Sgiliau

Yn gweithio gyda’i gilydd yn Ysgol Busnes Caerdydd ers 2016, aeth yr Athro Aris Syntetos o Brifysgol Caerdydd a Mike Wilson, Is-lywydd Gweithredol America Ladin a Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Logisteg Byd-eang, DSV, ati i gyd-greu Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestri Eiddo PARC. Mae DSV hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar Gampws Arloesedd newydd y Brifysgol trwy'r Ganolfan RemakerSpace, sydd wedi'i lleoli o fewn sbarc | spark, gyda'r nod o drawsnewid economi gylchol Cymru.

Yn ystod yr ymweliad, ynghyd â Chanolfan RemakerSpace, bu swyddogion DSV ar daith o amgylch amrywiaeth o gyfleusterau yng Nghaerdydd gan gynnwys Sefydliad Gweithgynhyrchu, Logisteg a Stocrestri Eiddo PARC, yr Hyb Arloesedd Seiber a’r Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriannau Dynol.

Gwnaethant hefyd gwrdd ag arbenigwyr academaidd a rannodd a chyflwynodd eu hymchwil ar dechnoleg cadwyni bloc, ffactorau dynol a rhyngwyneb Deallusrwydd Artiffisial, ennill a chadw cwsmeriaid, rhagoriaeth weithredol, adnoddau efelychu, dadansoddeg gweithredol a gwyddorau data, cael gwared ar stocrestrau yn ôl y galw (D2ID) ac optimeiddio.

Dywedodd yr Athro Aris Syntetos, Cadeirydd PARC a Chyfarwyddwr RemakerSpace ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Roeddem yn falch iawn o gael croesawu Prif Swyddog Gweithredol newydd DSV Solutions, Albert-Derk Bruin, a’i dîm. Cawsom gyfle i archwilio rhywfaint o’r ymchwil ragorol gan Brifysgol Caerdydd sy’n sail i’r bartneriaeth strategol – gan gynnwys ymchwil gan Ysgol Busnes Caerdydd, ac o feysydd pwnc eraill fel mathemateg, seicoleg, peirianneg, a chyfrifiadureg – ac i fyfyrio ar sut y gallwn ehangu’r Sefydliad PARC sydd eisoes yn llwyddiannus i wneud cynnydd pellach wrth fynd i’r afael â heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.”
Yr Athro Aris Syntetos Distinguished Research Professor, DSV Chair

Dywedodd Albert-Derk Bruin, Prif Swyddog Gweithredol DSV Solutions: “Mae’n wych gweld bod y bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a DSV wedi datblygu dros amser. Mae cyfuno cryfderau ein busnes gyda gwybodaeth academaidd y Brifysgol yn creu sylfaen gref i ddatblygu’r bartneriaeth ymhellach ac i ddatrys heriau logisteg yn y dyfodol.”

Wrth i’r sector logisteg byd-eang wynebu newid cyflym, a’r angen am arloesedd cyson yn ogystal â thrawsnewid i arferion gwyrddach, mwy ecogyfeillgar, mae Prifysgol Caerdydd yn falch o allu cefnogi DSV i ddod o hyd i atebion, arbenigedd a thalent i fynd i’r afael â’i heriau busnes a chyfleoedd ac i gefnogi ei huchelgeisiau twf byd-eang.

Rhannu’r stori hon