Ewch i’r prif gynnwys

Yn ôl casgliadau gwaith ymchwil, mae angen mwy o gefnogaeth i helpu deiliaid cartrefi i symud tuag at defnyddio ynni gwyrdd

23 Ebrill 2024

Llaw yn troi thermostat

Bydd angen mwy o gymorth ariannol a chyngor ar ddinasyddion wrth iddynt newid i ffynonellau gwres wedi’u datgarboneiddio, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Y papur hwn, sydd wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Nature Energy, yw’r cyntaf i archwilio i ganfyddiadau manwl deiliaid tai am ystod eang o dechnolegau gwresogi carbon isel. Mae’r rhain yn cynnwys pympiau gwres, hydrogen, gwresogi hybrid a rhwydweithiau gwres, yn ogystal â’r gwaith uwchraddio i inswleiddio cartrefi ac i rwydweithiau ynni fydd yn angenrheidiol er mwyn i bob technoleg allu gweithio.

Mae angen dod i ben yn raddol â gosod boeleri nwy newydd cyn 2050 os yw’r DU am gyrraedd targedau newid hinsawdd. Mae grantiau o £7,500 ar gael yng Nghymru a Lloegr i helpu gyda'r gost o osod pympiau gwres.

Mae'r astudiaeth yn ymdrin â data a gasglwyd mewn gweithdai cydgynghorol sy'n cynrychioli amrywiaeth o gyd-destunau daearyddol a thai ledled y DU.

Er bod cyfranogwyr yn agored i'r ffaith bod angen symud i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi, mae academyddion wedi canfod bod pobl hefyd yn pryderu am yr effaith ariannol y gallai newidiadau o'r fath eu cael arnynt, yn ogystal â'r anhawster o addasu eu cartrefi.

Ni welwyd bod un mesur ôl-ffitio penodol yn atal pobl rhag dewis system wresogi carbon isel. Yn hytrach, nododd yr astudiaeth y gallai nifer o agweddau penodol ar gartrefi sy’n hynod bwysig i’w preswylwyr gael eu heffeithio. Byddai angen i osodwyr ystyried y rhain wrth gyflwyno technolegau gwresogi newydd.

Roedd pryderon ynghylch fforddiadwyedd a rhwystredigaeth ynghylch ansicrwydd amcangyfrifon costau yn gwneud y posibilrwydd o gymharu opsiynau gwahanol gwresogi yn fater o straen i nifer o gyfranogwyr.

Roedd teimladau o ansefydlogrwydd ariannol yn fwyaf amlwg ymhlith tenantiaid yn y sector rhentu preifat, lle roedd cyfranogwyr yn poeni ynghylch cynydd mewn rhent a biliau.

Roedd perchnogion tai mewn ardaloedd mwy cefnog, oedd yn teimlo'n fwy diogel yn ariannol, yn fwy parod i ystyried y byddai’n rhaid i’w haelwydydd nhw gyfrannu tuag at y gost o addasu eu cartrefi.

Roedd y cyfranogwyr yn tueddu i ystyried mai uwchraddio'r rhwydwaith neu amharu dros dro ar wasanaethau fyddai’r anhawster lleiaf sylweddol i ddatgarboneiddio gwres.

Meddai Dr Gareth Thomas, sy’n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: “Er bod y cyhoedd yn gefnogol i'r angen i symud oddi wrth defnyddio tanwydd ffosil, mae’n amlwg o’n hymchwil nad ydynt yn disgwyl gorfod cymryd y baich deallusol ac ariannol hwn ar eu pen eu hunain. Felly, ni fydd y cymhellion ariannol presennol yn ddigonol i gynyddu'r nifer sy'n dewis systemau o’r fath.

“Mae deiliaid tai yn teimlo na ddylai dewis rhwng systemau gwresogi carbon isel fod yn broses llawn risg sy'n gadael rhai aelwydydd yn dlotach, yn agored i gael eu twyllo gan fasnachwyr amheus neu ddioddef anrhylowder y marchnadoedd ynni neu offer.

Mae angen fframweithiau i gynnig sicrwydd iddynt. Gall cynnig strwythurau o’r fath ddod o dan awdurdodaeth dai neu les yn hytrach na pholisi ynni. Hefyd, dydyn nhw ddim eisiau teimlo fel eu bod nhw ar eu pennau eu hunain yn rhan o’r broses, ac maen nhw’n disgwyl mwy o gymorth a chyngor.
Dr Gareth Thomas Research Associate

Roedd y farn ar ddarpariaeth seilwaith gwresogi a’r canfyddiad o darfu yn amrywio o amgylch y DU, gan amlygu perthynas pobl â'u hamgylchedd ehangach. Roedd grwpiau ffocws yn Lerpwl yn gefnogol o’r syniad o gynlluniau gwres ar lefel ardal, yn unol â'u “teimladau o undod lleol a hunaniaeth gyffredin”.

Meddai Dr Thomas: “Mae llawer o ffactorau a all wneud i bobl deimlo'n ansicr, neu yn hytrach yn llai pryderus ynghylch symud tuag at ddefnyddio ffynonellau ynni gwyrdd.

“I'r rhai sydd â thai diogel a digon o arian i gynnig sicrwydd iddynt, gall ôl-ffitio gwres ymddangos yn fwy o anghyfleustra na tharfu sylfaenol ar ffordd o fyw sy’n bwysig iddynt. Er bod cyfranogwyr yn cydnabod y gallai newidiadau o'r fath olygu bod tarfu materol ar fywydau, roedd cyfranogwyr oedd â mwy o sicrwydd ariannol yn gallu adnabod manteision cadarnhaol datgarboneiddio gwres i’w hunain, i’r amgylchedd ac i’w cymuned.

“Mae ein canfyddiadau'n dangos y dylai’r broses o lunio polisi roi llai o bwyslais ar  benderfyniadau defnyddwyr unigol, a sefydlu ffyrdd o gefnogi dinasyddion yn ariannol, yn ddeallusol ac yn emosiynol fel y gallant fyw'n dda wrth fyw trwy’r broses o ôl-ffitio gwres a phrosiectau carbon isel eraill sy’n ymwneud â’n ffordd o fyw.”

Gellir gweld y papur, A relational approach to characterising householder perceptions of disruption in heat transitions, yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.