Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddwr Ymchwil yn cyd-arwain yr ail encil i fenywod mewn mathemateg gymhwysol

4 Ebrill 2024

Nneka Umeorah yn cyflwyno ei hymchwil yn yr Encil i Fenywod mewn Mathemateg Gymhwysol (RWAM)

Cafodd Encil i Fenywod mewn Mathemateg Gymhwysol (RWAM) 2024, a gynhaliwyd yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Gwyddorau Mathemategol yng Nghaeredin, ei drefnu gan ein Cyfarwyddwr Ymchwilydd, yr Athro Angela Mihai, mewn cydweithrediad â’r Athro Apala Majumdar o Brifysgol Strathclyde.

Prif nod y digwyddiad hwn oedd hwyluso a rhoi llwyfan cefnogol i fathemategwyr benywaidd rannu eu cipolygon ar agweddau proffesiynol ar bynciau helaeth, gan gynnwys cyfleoedd ariannu, datblygu gyrfa ac arferion addysgu.

Un o uchafbwyntiau’r encil oedd gweld yr ystod amrywiol o unigolion a gymerodd rhan ynddo, gan gynnwys unigolion ar wahanol gamau yn eu gyrfa, boed ymgeiswyr PhD neu athrawon wedi’u hen sefydlu. Gwnaeth yr amrywiaeth hon ychwanegu at y trafodaethau cyfoethog a gafwyd yn ystod y rhaglen, yn ogystal ag ennyn creadigrwydd y rheiny oedd ynghlwm â hi.

Ymhlith yr unigolion a fu’n bresennol oedd y darlithydd Nneka Umeorah, o’n hysgol ni, ac a wnaeth gyflwyno ei hymchwil ar y pwnc: Rhwystrau o ran Opsiynau a’r Groegiaid: modelu â Rhwydweithiau Nerfol.

Bu’r Encil i Fenywod mewn Mathemateg Gymhwysol 2024 roi cipolwg amhrisiadwy imi ar sut i gamu ymlaen yn eich gyrfa, cyfleoedd mentora, a rhwydweithio ym myd gwyddoniaeth. Roedd yn galonogol bod ynghlwm â’r achlysur hon a gweld grŵp mor amrywiol o fathemategwyr yn dod ynghyd i gefnogi a grymuso ein gilydd, wrth inni anelu at ragoriaeth ym maes mathemateg.
Dr Nneka Umeorah Lecturer

Gan fynd i'r afael â’r diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes mathemateg, gwnaeth yr encil hwn sefydlu a rhoi cynllun mentoriaid-mentoreion ar waith i gysylltu darpar fathemategwyr â mentoriaid profiadol. Mae mentrau o'r fath yn hollbwysig er mwyn cynnig arweiniad, anogaeth a chyngor gyrfaol i’r menywod hynny sydd wrthi’n llywio eu llwybrau academaidd a phroffesiynol.

Gan fynd i'r afael â’r diffyg cynrychiolaeth menywod ym maes mathemateg, gwnaeth yr encil hwn sefydlu a rhoi cynllun mentoriaid-mentoreion ar waith i gysylltu darpar fathemategwyr â mentoriaid profiadol. Mae mentrau o'r fath yn hollbwysig er mwyn cynnig arweiniad, anogaeth a chyngor gyrfaol i’r menywod hynny sydd wrthi’n llywio eu llwybrau academaidd a phroffesiynol.
Yr Athro Angela Mihai Lecturer in Applied Mathematics

Rhannu’r stori hon