Ewch i’r prif gynnwys

Gallwch gyflwyno cais ar gyfer Ysgol Haf Wolfson 2024 nawr

4 Mawrth 2024

Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal ei thrydedd Ysgol Haf rithwir ym mis Gorffennaf eleni.

Cynhelir y cwrs tri diwrnod ar-lein rhwng dydd Llun 15 a dydd Mercher 17 Gorffennaf, yng ngofal y tîm rhyngddisgyblaethol arbenigol yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Dr Vicky Powell, Dr Chris Eaton, Dr Amy Shakeshaft, a Dr Becky Anthony yn arwain rhaglen yr ysgol haf, gyda chymorth ychwanegol gan y swyddog cyfathrebu, sef Margarida Maximo.

Mae'r tîm yn edrych ymlaen at gynnal ysgol haf arall ar ran Canolfan Wolfson. Nod ein rhaglen ar-lein yw cyflwyno ymchwil iechyd meddwl ieuenctid i'r rhai sy'n cymryd rhan, gan ganolbwyntio ar y gwaith amrywiol sy’n cael ei wneud yn y ganolfan
Dr Victoria Powell Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Ychwanegodd Dr Chris Eaton: “Bydd yr ysgol haf yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr o'r radd flaenaf, a fydd yn cynnig cyflwyniadau a gweithdai yn eu meysydd arbenigedd. Byddant yn canolbwyntio ar ddeall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a all lywio ffyrdd effeithiol newydd o gynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.

Bydd y rhaglen gynhwysfawr yn trafod gwahanol agweddau ar ddulliau a chanfyddiadau ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan ddefnyddio cipolygon o ddisgyblaethau megis epidemioleg, geneteg, niwrowyddoniaeth a datblygu ymyriadau.

Mae agenda’r ysgol haf yn cynnwys sgyrsiau byr sy'n rhoi cyngor ar gyfer gyrfa mewn ymchwil, trafod arwyddocâd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, a sut y gall ymchwilwyr gyfrannu at drosi canfyddiadau yn bolisïau'r llywodraeth. Bydd cyfle i rwydweithio yn rhithwir gyda’r rhai sy’n cymryd rhan a gyda siaradwyr hefyd.

Mae’n rhad ac am ddim i ddod i’r ysgol haf ac mae wedi’i hanelu at wyddonwyr ymchwil (PhD, gradd Meistr, ôl-ddoethurol, neu fyfyrwyr israddedig yn ei thrydedd flwyddyn) neu hyfforddeion clinigol (hyfforddiant sylfaen/craidd/arbenigol) sydd â diddordeb mewn symud i ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, neu’r rhai sydd am gael cyflwyniad i’r maes.

Dywedodd Dr Vicky Powell "Hoffem eich annog i gyflwyno cais ar gyfer y cyfle hwn. Mae'r rhaglen yn gyfle i gael rhagor o wybodaeth am symud i faes iechyd meddwl ieuenctid mewn rolau ymchwil a chlinigol a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i ystod eang o bobl."

Rydym wrth ein bodd yn agor drysau Canolfan Wolfson yn rhithwir yr haf hwn, gan groesawu hyfforddeion ac ymchwilwyr newydd i ddysgu am ein gwaith. Mae’r cyfnod i gyflwyno ceisiadau yn cau ar 14 Fehefin 2024 ac edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan!”
Dr Christopher Eaton Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Sut i wneud cais

I wneud cais i fynd i Ysgol Haf Canolfan Wolfson mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan yr Ysgol Haf.

Darllenwch am brofiadau myfyrwyr yn Ysgol Haf Wolfson ar ein blog:

Rhannu’r stori hon

Eisiau bod yn rhan o'n hysgol haf ryngwladol lle gallwch ddysgu am ymchwil iechyd meddwl ieuenctid gan arbenigwyr blaenllaw?