Llwyddiant ysgubol Ysgol Haf 2023 mewn Iechyd Meddwl Ieuenctid
20 Gorffennaf 2023

Ym mis Gorffennaf 2023, cynhaliodd Canolfan Wolfson ei ail Ysgol Haf ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Dros y tri diwrnod/tridiau, denodd yr ysgol haf dros 80 o bobl o bob cwr o’r byd, gyda 23 o wahanol wledydd yn cael eu cynrychioli.
Rhaglen ar-lein tri diwrnod oedd o dan sylw yn cynnwys sgyrsiau a gweithdai craff a gynhaliwyd gan arbenigwyr sy'n gysylltiedig â'r ganolfan. Roedd sgyrsiau a gweithdai yn ymdrin ag ymchwil geneteg, heriau i iechyd meddwl ieuenctid a'r dirwedd bresennol, safbwyntiau byd-eang ar raglenni a pholisïau iechyd meddwl, atal iselder mewn ieuenctid, iechyd meddwl mewn ysgolion a gwerthuso ymyriadau cymhleth, a hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc.
Yn ogystal, arweiniodd yr ysgol haf at lawer o ymgysylltu ar gyfryngau cymdeithasol gyda hashnod yr ysgol #wolfsonsummer23 yn cael ei ddefnyddio dros 19,000 o weithiau.
Roedd cymryd rhan yn yr hashnod #wolfsonsummer23 yn sicr wedi creu argraff. Roedd yn galonogol iawn gweld y rhai yn bresennol yn trydar am eu profiadau, eu lleoliadau, a rhannu lluniau. Maent nid yn unig yn gysylltiedig â'r siaradwyr ond hefyd â'i gilydd, gan greu cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.
Ar y cyfan, roedd y rhai a oedd yn bresennol yn gwerthfawrogi'r ystod o bynciau ar gael a'r cyfle i ryngweithio ag arbenigwyr blaenllaw. Mae llawer o fyfyrwyr wedi rhoi clod i'r ysgol haf gan ei ddisgrifio fel cyflwyniad amhrisiadwy i ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, a oedd yn eu helpu i nodi llwybrau ymchwil posibl ac archwilio llwybrau gyrfa yn y dyfodol.
Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn ac rydym yn falch bod y myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi elwa cymaint o’r profiad. Roedd yn wych gwybod bod 100% ohonynt yn argymell ein hysgol haf i ffrind neu gydweithiwr.
Fe aeth Sangita Santosham, seicolegydd cwnsela ac ymarferydd preifat o Chennai, India, i’r ysgol haf a phwysleisiodd yr effaith fyd-eang a gafodd y rhaglen.
Dywedodd Sangita: “Amlygodd yr ysgol haf yr arwyddocâd o gysylltedd ymchwil byd-eang, gan danlinellu ein cydgysylltiad a rennir. Rwy'n rhagweld y bydd mwy o ymarferwyr ac ymchwilwyr yn elwa o'r profiad hwn, yn debyg iawn i mi, ac rwy'n ei argymell yn fawr i'm holl gydweithwyr. Gallwch ddarllen am brofiad Sangita yn yr ysgol haf ar bost blog Canolfan Wolfson.

Hoffai tîm yr ysgol haf ddiolch o galon i bawb ac i'n siaradwyr gwych o bob rhan o Ganolfan Wolfson, yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, a DECIPHer.
Mae ein hysgol haf yn parhau i dyfu a gwella wrth i ni ystyried adborth yr holl fyfyrwyr, ac rwy'n gyffrous i weld beth sydd gan #WolfsonSummer24 ei gynnig yn y flwyddyn sydd i ddod.
Hoffech chi ymuno â ni ar gyfer ysgol haf Wolfson 2024? Gweler y rhaglen lawn isod a gwnewch gais:
Darllenwch fwy ar ein blog am brofiadau myfyrwyr yn Ysgol Haf Wolfson: