Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth i ganfod a all economi gylchol ddiwallu anghenion adeiladau’r DU

5 Mawrth 2024

Ongl camera isel yn dangos adeilad gyda choed

Bydd prosiect newydd yn ymchwilio i sut y gallai'r economi gylchol ddiwallu anghenion adeiladu'r DU heb echdynnu deunyddiau newydd a heb yr un allyriad a dim gwastraff.

Bydd BuildZero, sef prosiect gwerth £6 miliwn a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), yn datblygu gweledigaeth fanwl o arferion adeiladu mwy cynaliadwy, ac yn rhan o’r prosiect mae Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Sheffield, Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Caergrawnt, y partner polisi a gweithredu ReLondon a chydweithwyr byd diwydiant.

Mae adeiladau a seilwaith yn gyfrifol am fwy na 40% o allyriadau carbon y DU, yn creu mwy na 60% o wastraff y DU, ac yn defnyddio tua 50% o'r holl ddeunyddiau a echdynnir yn fyd-eang. Felly er mwyn datgarboneiddio byd adeiladu, mae angen newidiadau sylweddol.

Mae’r economi gylchol yn gyfle a gydnabyddir yn eang i leihau’r defnydd o adnoddau ac allyriadau carbon. Mewn economi gylchol, cedwir deunyddiau ar y gwerth uchaf posibl, er enghraifft ôl-ffitio adeiladau ac ailbwrpasu adeiladau i ymestyn eu hoes.

Wrth siarad am y prosiect, dyma a ddywedodd Dr Kersty Hobson o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Mae’n bwysig iawn bod materion cynhwysiant cymdeithasol, effaith a derbynioldeb yn sylfaenol i nodau a deilliannau BuildZero. Rwy’n edrych ymlaen at arwain gwaith allweddol yn y meysydd hyn, yn enwedig o ran datblygu ffyrdd o greu dyfodol adeiladau cynaliadwy ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid.”

Yn y gorffennol, mae enghreifftiau’r economi gylchol yn y sector adeiladu wedi canolbwyntio’n bennaf ar astudiaethau achos o adeiladau unigol, neu ailgylchu deunyddiau unigol, ond mae’r rhain yn colli’r cyfle i wneud newidiadau i’r system ehangach. Nod BuildZero yw cyflwyno ffordd o weithio ar raddfa fwy ac ar lefel systemau i greu newidiadau yn y sector adeiladu.

Bydd y rhaglen ymchwil yn dod i ben wrth gyflwyno ystod o brosiectau arddangos, offer rhyngweithiol, strategaethau manwl, ac yn y pen draw gyfres o lwybrau i gyflawni gweledigaeth BuildZero, sef stoc adeiladau yn y DU nad yw’n echdynnu deunydd crai newydd na’r un allyriad a dim gwastraff.

Dyma a ddywedodd Dr Danielle Densley Tingley, Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Sifil a Strwythurol ym Mhrifysgol Sheffield, a fydd yn arwain y prosiect: “Mae’r cyllid hwn yn gyfle cyffrous i ganfod os, ac erbyn pryd, gellir sicrhau economi gylchol ar gyfer stoc adeiladau’r DU, tra’n diwallu anghenion cymdeithasol hanfodol. Byddwn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid yn y diwydiant i gefnogi newidiadau mewn arferion a helpu i sbarduno’r newid i economi gylchol eang yn yr amgylchedd adeiledig.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.