Ewch i’r prif gynnwys

Pwytho posibiliadau ar gyfer yr economi gylchol

21 Mehefin 2023

A group of student sewing at the Remakerspace

Yn ddiweddar cynhaliodd RemakerSpace weithdy gwnïo arloesol a ddaeth â myfyrwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd ynghyd i ddysgu amrywiaeth o sgiliau gwnïo, hyn i’w cynorthwyo gydag atgyweirio ac ymestyn oes eu dillad, a’u hannog i wneud hynny.

Drwy’r digwyddiad, oedd wedi’i drefnu a’i arwain gan Dr Kersty Hobson (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio), bu’n bosib i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn nifer o sesiynau rhyngweithiol, gan wnïo ar beiriannau domestig a gwnïo â llaw, gyda’r digwyddiad hefyd yn gyfle rhwydweithio rhagorol ar gyfer myfyrwyr o bob rhan o’r brifysgol; cyfle iddynt gwrdd a chymdeithasu mewn amgylchedd dysgu anffurfiol a hwyliog.

Wedi'i ariannu gan 'Gynllun Arloesi i Bawb' Prifysgol Caerdydd, ymunodd y myfyrwyr â Dr Ruth Potts (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio) Dr Andreia de Almeida (Yr Ysgol Meddygaeth) a hwylusodd sesiynau ar dechnegau trwsio 'gweladwy', gwnïo â pheiriannau  ar gyfer atgyweirio, a thrwsio sylfaenol drwy wnïo â llaw.

Roedd y sawl oedd yn bresennol yn frwdfrydig ynghylch cymryd y cyfle hwn i ddysgu sgiliau newydd, gyda rhai myfyrwyr yn defnyddio’r sesiynau i wella eu harbenigedd presennol. Roedd y cyfranogwyr yn gadael y gweithdy â’r hyder i barhau i ddatblygu a gweithio ar brosiectau atgyweirio a gwnïo dillad unigol.

“Roedd y myfyrwyr a ymunodd â ni yn awyddus iawn i ddechrau gwnïo ac roedden nhw’n dysgu’n gyflymach na fi yn y pen draw! Wrth i ni wnïo a sgwrsio, fe wnaethon nhw rannu eu barn ddiddorol ynghylch 'beth nesaf' ac felly rydyn ni wir yn gobeithio gallu cynnal rhagor o sesiynau atgyweirio yn y dyfodol."
Dr Kersty Hobson Reader in Human Geography, Director or Learning and Teaching

Mae RemakerSpace, a sefydlwyd drwy ddyfarniad Cronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniad sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn ymroddedig i ymgysylltu â’r gymuned ac addysg i hyrwyddo a chefnogi ymestyn cylch bywyd cynnyrch a’r economi gylchol. Y gweithdy gwnïo yw'r cyntaf mewn cyfres sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr haf, a bydd gweithdai yn canolbwyntio ar electroneg sylfaenol ac argraffu 3D yn rhan o’r gyfres hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae RemakerSpace yn cefnogi grwpiau cymunedol, darparwyr addysg a busnesau, cysylltwch â Rebecca Travers, Rheolwr Canolfan RemakerSpace.

Rhannu’r stori hon