Ewch i’r prif gynnwys

Democratiaeth yng Nghymru mewn perygl oni bai bod newidiadau’n cael eu gwneud ar frys, meddai comisiwn cyfansoddiadol

25 Ionawr 2024

dau berson yn eistedd wrth fwrdd
yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd a Dr Rowan Williams

Mae comisiwn cyfansoddiadol wedi dod i’r casgliad bod angen gwneud newidiadau ar frys i sicrhau nad yw datganoli yng Nghymru’n chwalu.

Cafodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei sefydlu yn 2021 er mwyn ystyried sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer newid. Mae’n cael ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd ar y cyd â Dr Rowan Williams.

Yn ei adroddiad dros dro, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022, nododd y Comisiwn fod problemau sylweddol o ran sut mae Cymru’n cael ei llywodraethu yn yr Undeb. Nododd hefyd nad yw parhau â'r sefyllfa bresennol yn opsiwn ymarferol i sicrhau sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru. Mae'n nodi tri llwybr cyfansoddiadol amgen i Gymru. Dod yn annibynnol, bod â system ffederal neu wella datganoli oedd y rhain.

Mae adroddiad terfynol y Comisiwn wedi dod i’r casgliad bod pob un o’r tri opsiwn yn bosibl ar gyfer y tymor hir ac yn dadlau hefyd bod angen gwneud rhai newidiadau ar frys i ddiogelu’r status quo. Ymhlith y rhain mae datganoli cyfiawnder, plismona a’r seilwaith rheilffyrdd er mwyn gwella atebolrwydd a’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu, yn ogystal â gwneud newidiadau mawr yn y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu er mwyn gwneud yn siŵr y gall datganoli sicrhau’r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod angen deddfu i ddiogelu cysylltiadau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau bod holl lefelau’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd, ond yn bwysicach fyth, yn cyflawni’n effeithiol er budd y cyhoedd.

Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: “Dyma foment bwysig yn y drafodaeth ynghylch ein taith gyfansoddiadol, a byddwn ni’n rhoi ystyriaeth ofalus i’r argymhellion yn yr adroddiad.”

Wrth sôn am ganfyddiadau ac amseru adroddiad terfynol y Comisiwn, dywedodd y cyd-Gadeirydd yr Athro Laura McAllister o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd: “Mae bron i chwarter canrif wedi mynd heibio ers i bwerau gael eu datganoli i Gymru gyntaf, a dyma oedd yr adeg gywir i gael y sgwrs genedlaethol hon gyda phobl Cymru ynghylch y camau nesaf yn ein taith gyfansoddiadol. Doedd llawer o’r dinasyddion y buon ni’n siarad â nhw ddim hyd yn oed wedi’u geni ar yr adeg pan ddechreuodd datganoli, tra bod eraill wedi gweld newidiadau mewn sut mae Cymru’n cael ei rhedeg yn ystod y 25 mlynedd diwethaf – ac mae ganddyn nhw farn ar yr hyn y gellir ei wneud yn well neu’n wahanol.

“Drwy ein gwaith, daeth yn amlwg bod y status quo ddim yn gynaliadwy a bod anghenion pobl Cymru ddim yn cael eu diwallu. Os ydyn ni am ddiogelu datganoli yng Nghymru, hyd yn oed fel y mae ar hyn o bryd, mae’n rhaid i'r newidiadau hyn gael eu gwneud ar frys. Yna, gallwn ni edrych ymhellach i'r dyfodol ar y tri llwybr posibl hyn ar gyfer dyfodol Cymru, y mae heriau a chyfleoedd yn gysylltiedig â phob un ohonyn nhw.

“Mae'n hanfodol bod yr adroddiad hwn yn fodd o ysgogi newid ar gyfer pobl Cymru yn y dyfodol, ac rydyn ni am i'r sgwrs barhau. Rydyn ni wedi dechrau’r hyn fydd, gobeithio, yn drafodaeth ehangach er mwyn cynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.