Ewch i’r prif gynnwys

Plant a phobl ifanc Ynys Môn yn cael y cyfle i ddweud eu dweud ar newid yn yr hinsawdd

23 Ionawr 2024

Llun o'r awyr o draeth

Mae Ynys Môn yn ganolbwynt i brosiect ymchwil sy’n ceisio mesur effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gymunedau lleol a faint maen nhw'n gwybod amdano.

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn rhan o dîm a arweinir gan Brifysgol Caergrawnt mewn cydweithrediad â Phrifysgol Wrecsam, sydd yn creu model i gasglu data ar lefel leol a allai lywio a dylanwadu ar bolisïau gwyrdd.

Mae’r tim wedi derbyn un o bedwar grant Ecosystem Pontio Gwyrdd newydd gwerth £4.6 miliwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Byddant yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau ym Môn i ymchwilio i farn plant a phobl ifanc ar newid yn yr hinsawdd a sut mae wedi effeithio, neu sut y gallai effeithio ar ble maent yn byw a’r ffyrdd y gallent addasu iddo. Byddant yn defnyddio’r data hwn i greu Platfform Mapio Cyhoeddus ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd ystafell wledig grwydrol a wnaed gan y gymuned yn teithio o amgylch Môn yr haf nesaf gan ddarparu man rhyngweithiol a chydweithredol ar gyfer casglu ymchwil. Bydd ymarferwyr celf, megis beirdd yn helpu academyddion i gynnal gwahanol ymgynghoriadau. Bydd y prosiect hefyd yn cyflogi gwyddonwyr cymunedol i weithio ochr yn ochr â phobl ifanc i gasglu gwybodaeth am faterion hanfodol ond anodd eu mesur megis faint o lygredd maen nhw’n dod i gysylltiad ag ef bob dydd.

Bydd y data hwn yn cael eu digideiddio a'u datblygu'n fap ar-lein rhyngweithiol a allai ddarparu fframwaith ar gyfer sut y caiff newid yn yr hinsawdd ei fonitro ledled Cymru.

Dywedodd Lyndsey Campell-Williams, Prif Swyddog Dros Dro Medrwn Môn, sefydliad sy’n cefnogi sefydliadau cymunedol ar Ynys Môn: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n rhan o bartneriaeth ar y prosiect hwn yn ffordd o ategu ein rhaglen Llunio Lle ar gyfer yr ynys. Bydd cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn ein galluogi i ddarparu rhestr werthfawr o’r asedau sydd ar gael i’n cymunedau er mwyn eu helpu i gyflawni eu blaenoriaethau ar lefel leol. Mae adeiladu cymunedau dyfeisgar yn ymwneud i raddau helaeth â sut rydym yn gweithio’n rhan o bartneriaeth, i rannu adnoddau, gwybodaeth a phrofiad i gael y gorau allan o'n cymunedau ac ar eu cyfer, ac mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar yr agwedd hon”.

Meddai’r Athro Scott Orford, sydd wedi’i leoli yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD): “Mae’n bwysig ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd o gofnodi barn plant a phobl ifanc ar newid yn yr hinsawdd. Nhw yw cenhedlaeth y dyfodol a fydd yn cael eu heffeithio gan benderfyniadau llunwyr a chynllunwyr polisïau. Er gwaethaf hyn, mae eu barn yn aml yn cael ei hanwybyddu ac felly nod y prosiect hwn yw rhoi llais iddynt. Gobeithiwn y gallai’r ymchwil hwn fod yn beilot ar gyfer prosiect Cymru gyfan a thu hwnt, wrth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau chwilio am ffyrdd o wneud penderfyniadau gwybodus ar y cyfnod pontio gwyrdd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”

Dywedodd yr Athro Flora Samuel o Brifysgol Caergrawnt: “Ni ellir mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd heb ddod a’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas a lle maent yn digwydd i’r golwg, a mynd i’r afael â nhw. Gallwn ond wneud penderfyniadau gwybodus pan fyddwn yn gwybod beth sy'n digwydd, ble mae'n digwydd, a sut mae pobl yn addasu i newid yn yr hinsawdd.

Nod y prosiect pragmatig hwn yw creu Platfform Map Agored Cymunedol a fydd yn dod â haenau lluosog o wybodaeth ofodol ynghyd i roi darlun cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd o'r hyn sy'n digwydd mewn cymdogaeth, ardal, awdurdod lleol, rhanbarth neu genedl.

Dywedodd yr Athro Alec Shepley o Brifysgol Wrecsam: “Ymateb emosiynol i newid neu gymhlethdod yn aml yw ein hymateb cyntaf a ninnau’n fodau dynol - mae sut rydyn ni'n teimlo yn wirioneddol bwysig. Mae’r prosiect hwn yn dod â dulliau ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau, gyda gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned – yn enwedig gyda phlant a phobl ifanc, i ystyried yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw nawr ac i’r dyfodol.

“Gall y celfyddydau godi cwestiynau anghyfforddus a datgelu materion anodd – yn aml mewn ffordd fywiog. Ein nod yw defnyddio'r cyfle amhrisiadwy hwn i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a thrwy weithgareddau celfyddydol, cynnal archwiliad trylwyr i'r holl bethau hyn. Rydyn ni eisiau dathlu dyheadau ar gyfer y dyfodol ond hefyd dweud beth sydd ei angen i fyw bywyd da.”

https://www.youtube.com/watch?v=VE5CEzskSVQ

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.