Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd yn datgan bod angen newidiadau i gefnogi gweithwyr yng Nghymru

18 Ionawr 2024

Showing illustrations of people in different professions. For example, office worker, Firefighter, gardener, nurse.

Mae adroddiad a luniwyd dan arweiniad yr Athro Jean Jenkins yn tynnu sylw at yr angen am newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â gwaith a gorfodi hawliau llafur yng Nghymru.

Fe wnaeth TUC Cymru gyhoeddi’r adroddiad annibynnol, Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith yng Nghymru, ddydd Mercher 10 Ionawr 2024.

Ac yntau wedi’i ysgrifennu gan yr Athro Jean Jenkins, mae’r adroddiad yn cyflwyno’r achos i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r dulliau sydd ganddi i gefnogi gweithwyr yng Nghymru yn well - drwy fuddsoddi mewn gorfodi hawliau yn y gwaith, partneriaethau newydd â chyrff gorfodi’r farchnad lafur yn y DU, gwell tryloywder, a hyfforddiant.

Mae’r Athro Jenkins yn sôn am realiti heriol gwaith yng Nghymru mewn economi sydd â lefelau isel o ddiweithdra, ynghyd â chyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd, ansicrwydd ynghylch swyddi, a chyflogau sydd fwy neu lai wedi aros yr un fath ers 15 mlynedd.

Mae hi hefyd yn tynnu sylw at y gwendidau go iawn yn y ffordd y mae hawliau cyfreithiol yn cael eu gorfodi ar hyn o bryd yn y gwaith yng Nghymru. Dim ond £10.45 sy'n cael ei wario ar orfodi hawliau i bob gweithiwr ac mae capasiti cyrff arolygiaeth y farchnad lafur yn safle 27 ymhlith 33 o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Daw’r adroddiad i’r casgliad nad yw canolbwyntio ar ddatganoli hawliau cyflogaeth yn unig yn debygol o arwain at welliannau sylweddol i weithwyr oni bai ei fod yn dilyn gwaith cynllunio gofalus dros ben, yn ogystal â mwy o gyllid. Mae’r Athro Jenkins yn argymell y dylai undebau yng Nghymru sefydlu gweithgor i edrych yn fanwl ar ymarferoldeb datganoli hawliau cyflogaeth.

“Mae fy adroddiad yn asesiad gonest o sefyllfa gweithwyr yng Nghymru yn 2024. Mae gormod o bobl wedi cael profiad ansicr, mae cyflogau wedi aros yr un fath, ac mae gennyn ni system hawliau llafur sy'n darparu ychydig iawn o amddiffyniad."
Yr Athro Jean Jenkins Head of Management, Employment and Organisation Section, Professor of Employment Relations

..."Y gwir amdani yw bod nifer fawr o'r cyfreithiau sydd i fod i gefnogi gweithwyr yn bodoli ar bapur yn unig. Ychydig iawn o wledydd eraill sydd â dulliau mor wan o orfodi hawliau ac mae angen inni flaenoriaethu newid os ydym eisiau gwireddu’r weledigaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru.

Rwyf wedi amlinellu set uchelgeisiol o argymhellion sy’n canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud yma ac yn nawr yng Nghymru i wella pethau, tra’n gosod map llwybr ar gyfer y gwaith ymarferol y byddai angen ei wneud cyn unrhyw ystyriaeth bellach o ddatganoli hawliau cyflogaeth i Gymru.

Rwyf wir yn gobeithio y bydd ein gwleidyddion, ein hundebau a’n cyflogwyr i gyd yn cydnabod yr angen brys i ddiwygio.”

Darllenwch yr adroddiad yma: Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith

Rhannu’r stori hon