Ewch i’r prif gynnwys

Cymuned Caerdydd yn cael ei chydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2024

16 Ionawr 2024

King's New Year's Honours 2024
Lynn Pamment CBE (BScEcon 1989), Dr Muhayman Jamil MBE (PgDip 2002), Yr Athro Jane Monckton-Smith OBE (PhD 2007)

Mae aelodau o gymuned cynfyfywyr Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin ar gyfer 2024.

Dyfarnwyd CBE i Lynn Pamment (BScEcon 1989), Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Adrodd Ariannol, am ei gwaith i Wasanaeth Cyhoeddus.

Dyfarnwyd OBE i Dr Kathryn Chamberlain (BScTech 1985, PhD 1988), cyn Brif Weithredwr yr Awdurdod Monitro Annibynnol ar gyfer Cytundebau Hawliau Dinasyddion, am ei gwaith i Wasanaeth Cyhoeddus.

Dyfarnwyd OBE i'r Athro Jane Monckton-Smith (PhD 2007), yr Athro Diogelu'r Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerloyw, am ei gwasanaethau i Gyfiawnder Troseddol.

Dyfarnwyd OBE i Gadlywydd Adain, Dr Matthew Lewis (MD 2005), RAF, Chynghorydd ymgynghorol mewn meddygaeth hedfanaeth.

Dyfarnwyd MBE i'r Parchedig Ganon Terence Graham DL (MTh 2019), Rheithor yn Eglwys Sant Bartholomew ym Melffast am ei wasanaethau i'r Lluoedd Wrth Gefn ac i'r gymuned.

Dyfarnwyd MBE i Dr Simon Hancock (PhD 2015), Cynghorydd Cyngor Sir Penfro am ei wasanaethau i'r gymuned.

Sefydlodd Dr Muhayman Jamil (PgDip 2002) yr elusen Wheels and Wheelchairs, sy'n dwyn ynghyd defnyddwyr cadeiriau olwyn â sglefrwyr i wneud sglefrio yn hygyrch i bawb. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i Bobl ag Anableddau.

Dyfarnwyd MBE i Dr Peter Jones (BSc 1985), Cynghorydd Arbenigol Arweiniol - Mawndiroedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, am ei wasanaethau i Fawndiroedd Cymru ac i'r gymuned yng Nghymru.

Dyfarnwyd MBE i Howard Provis (PgDip 2000), sydd wedi rhoi gwaed dros fil o weithiau, am ei wasanaethau i Wasanaeth Trallwysiad Gwaed yng Nghymru ac i'r gymuned. Ef yw un o’r rhoddwyr gwaed mwyaf erioed i Wasanaeth Gwaed Cymru a’r DU.

Sefydlodd Leona O'Neil (PgDip 2010) y sefydliad, The Boom Foundation a gafodd ei sefydlu er mwyn cefnogi pobl yng Ngogledd Iwerddon sy’n dioddef o sarcoma, a hynny ar ôl iddi golli ei darpar ŵr i'r clefyd. Dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i Godi Arian ar gyfer Pobl sy’n dioddef o Sarcoma.

Dyfarnwyd MBE i'r Uwchgapten John Baileff (BSc 2010) o Gatrawd y Magnelwyr Brenhinol.

Addysgwr Meddygol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda yw Dr Michael Bartlett (PgCert 2016) ac fe ddyfarnwyd BEM iddo am ei wasanaethau i Addysg Feddygol.

Dyfarnwyd BEM i Beverley Greenwood Alumna (BSc 1992) am ei gwasanaethau i'r gymuned yn Glenfield, Swydd Gaerlŷr, yn ystod y pandemig COVID-19.

Dyfarnwyd BEM i Dr Marion Lynch (MSc 1996), Ymgynghorydd Iechyd Byd-eang a Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y sefydliad, Fiona Foundation for Kids, am ei gwasanaethau i Fenywod a Phlant yn Affrica.

Dyfarnwyd BEM i Wayne Griffiths (LLB 1978), sy’n Gadeirydd Fforwm Gwirfoddolwyr Cymru Macmillan ac yn godwr arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, am ei wasanaethau i godi arian ar gyfer Ymchwil Canser a Gofal Canser.

Dyfarnwyd BEM i Dr Catherine Hubbert (MSc 2003), sylfaenydd Ymddiriedolaeth Elusennol Woodlands Hospice ac Ymarferydd Cyffredinol Macmillan, am ei gwasanaethau i Ofal Lliniarol.

Cafodd Medal Heddlu'r Brenin ei dyfarnu i Edward Ough (BA 1991), cyn-Uwcharolygydd Heddlu De Cymru.

Rydym mor falch o'n cymuned o gyn-fyfyrwyr yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a'u cyflawniadau.

Rhannu’r stori hon

Cysylltwch, tyfwch eich rhwydwaith proffesiynol, a chefnogwch fyfyrwyr a chynfyfyrwyr eraill. Cysylltu Caerdydd yw’r lle i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a manteisio ar gymuned fyd-eang cynfyfyrwyr Caerdydd.