Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau Blwyddyn Newydd

12 Ionawr 2023

Professor Colin Riordan

Mae cyflawniadau eithriadol aelodau o gymuned y Brifysgol, gan gynnwys aelodau o’r staff a chynfyfyrwyr, wedi’u cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin ar gyfer 2023.

Cafodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, ei anrhydeddu’n CBE i gydnabod ei wasanaeth i addysg uwch yn y DU. Wrth sôn am yr anrhydedd, dywedodd yr Athro Riordan ei fod wedi’i synnu ond yn gwerthfawrogi’r anrhydedd yn fawr iawn.

Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd i’r Athro Peter Ghazal, a gafodd ei anrhydeddu’n OBE i gydnabod ei wasanaeth i imiwnoleg systemau. Mae’r Athro Ghazal, Cadeirydd Meddygaeth Systemau Sêr Cymru yn y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, wedi torri tir newydd ym maes genomeg lletyol heintiau ar ddechrau ein bywyd.

Cafodd yr Athro Helen Sweetland (PGDip 2010), Athro Emeritws Clinigol yn yr Ysgol Meddygaeth, ei hanrhydeddu’n MBE i gydnabod ei gwasanaeth i ofal cleifion ac addysg feddygol.

Cafodd Dr Gordon Sanghera (BSc 1983, PhD 1987, Anrh 2022) ei anrhydeddu’n CBE i gydnabod ei wasanaeth i’r sector technoleg. Dr Sanghera yw cyd-sylfaenydd Oxford Nanopore Technologies, cwmni sy’n datblygu technoleg dilyniannu DNA chwyldroadol. Mae’r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio mewn bron 100 o wledydd erbyn hyn.

Cafwyd cydnabyddiaeth i’r Athro Sian Griffiths OBE (Anrh 2012), Athro Emeritws Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Tsieineaidd Hong Kong ac Athro Gwadd yng Ngholeg Imperial Llundain. Hi hefyd yw Cyfarwyddwr Cyswllt Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Dirprwy Gadeirydd GambleAware. Cafodd ei hanrhydeddu’n CBE i gydnabod ei gwasanaethau gwirfoddol ac elusennol, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

Cafodd yr Athro David Mosey (LLB 1976) ei anrhydeddu’n CBE i gydnabod ei wasanaeth i’r diwydiant adeiladu. Yn ogystal â bod yn Athro, ef yw cyn-Gyfarwyddwr Canolfan Cyfraith Adeiladu a Datrys Anghydfodau Coleg y Brenin Llundain. Yr Athro Mosey hefyd oedd Pennaeth Prosiectau ac Adeiladu’r cwmni cyfreithiol Trowers & Hamlins am fwy na 20 mlynedd.

Cafodd y Parchedig Jonathan Ball (MTh 2007) ei anrhydeddu’n OBE i gydnabod ei wasanaeth i’r Môr-filwyr Brenhinol. Ef yw Prif Weithredwr Cymdeithas y Môr-filwyr Brenhinol ac Elusen y Môr-filwyr Brenhinol.

Cafwyd cydnabyddiaeth i Helen Goulden (BA 1994), Prif Weithredwr The Young Foundation. Mae’n sefydliad sy’n cydweithio i wella bywydau a mynd i’r afael â heriau a rennir, a thrwy hynny, ysgogi newid cymdeithasol er mwyn creu cymunedau cryfach a sicrhau dyfodol tecach. Cafodd ei anrhydeddu’n OBE i gydnabod ei gwasanaeth i ddatblygu cymunedau cynaliadwy.

Cafodd Beverley Gower-Jones (BSc 1995) ei hanrhydeddu’n OBE i gydnabod ei gwasanaeth ym maes arloesi i gyflawni sero net. Hi yw sylfaenydd a Phrif Weithredwr Carbon Limiting Technologies, cwmni sy'n gweithio gyda’r diwydiant a'r llywodraeth i fasnacheiddio newydd-bethau carbon isel a chyflymu twf glân.

Cafodd David Palmer-Jones (BSc Econ 1984) ei anrhydeddu’n OBE i gydnabod ei wasanaeth i ailgylchu. David yw Uwch Is-lywydd sector Gogledd Ewrop cwmni ailgylchu ac adfer Suez.

Andrew John Rose (MSc 1998) yw Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Cafodd ei anrhydeddu’n OBE i gydnabod ei wasanaeth i gymdeithas sifil.

Cafodd Dr Brian Dickie (PhD 1991) ei anrhydeddu’n MBE i gydnabod ei wasanaeth i ymchwil clefyd niwronau motor. Brian yw Cyfarwyddwr Datblygu Ymchwil y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor.

Dr Stephen Mowle (MBBCh 1993) yw Trysorydd Anrhydeddus Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a meddyg teulu Hetherington Group Practice ym mwrdeistref Lambeth Llundain. Cafodd ei anrhydeddu’n MBE i gydnabod ei wasanaeth i ofal iechyd.

Y Parchedig Euryl Howells (BD 1993, PGCert 2007) yw Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyfarnwyd BEM iddo i gydnabod ei wasanaeth i gaplaniaeth y GIG yng Nghymru.

Malcolm Johnson (BSc(Tech) 1976) yw Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Telathrebu Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig. Cafodd ei anrhydeddu’n CMG i gydnabod ei wasanaeth i’r Cenhedloedd Unedig, y Gymanwlad a thechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu byd-eang.

Dyfarnwyd Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin i Edward O'Brien (MSc 2002). Ef yw Arweinydd Clinigol Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae'r Is-gyrnol Dominic Lethbridge (MEng 2001) yn aelod o Gorfflu'r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol. Cafodd ei benodi’n aelod o adran filwrol Urdd Fwyaf Rhagorol yr Ymerodraeth Brydeinig.

Rhannu’r stori hon